Digwyddiad llorio’r llofrudd yn addo bod yn noson anfarwol yng Nghastell Caeriw

Posted On : 31/05/2022

Bydd noson llorio’r llofrudd, gyda thema hanesyddol, yn cael ei chynnal yng Nghastell Caeriw nos Wener 18 Gorffennaf.

Wedi’i leoli yng Nghaeriw yn ystod y 15fed ganrif, mae’r Corff yn y Tŵr yn sôn am ddathliad unigryw yn yr awyr agored yng Ngardd Furiog Caeriw, sy’n cael ei ddifetha ar ôl dod o hyd i gorff.

Bydd rhan fwyaf o’r digwyddiad yn cael ei gynnal yn yr awyr agored, gyda chanapés a diodydd wedi’u cynnwys ym mhris y tocyn. Yn rhan o’r noson, bydd angen olrhain a chwestiynu’r rhai sydd dan amheuaeth er mwyn helpu’r Foneddiges Eva a’i Cheidwad i ddatrys y trosedd erchyll hwn.

Dywedodd Rheolwr Castell Caeriw, Daisy Hughes: “Rydyn ni’n falch iawn o gynnal un arall o’n digwyddiadau Llorio’r Llofrudd poblogaidd yn y Castell, gyda throsedd newydd yn aros i gael ei datrys.

“Bydd hi’n noson i’w chofio, a bydd y gwesteion yn cael eu gwahodd i gamu’n ôl mewn amser i ddarganfod pwy sydd wedi cyflawni’r drosedd yn un o leoliadau mwyaf prydferth Sir Benfro.

“Mae croeso i bawb wisgo dillad, gorchuddion wyneb neu hetiau o’r cyfnod – er bod dillad cynnes ac esgidiau call yn cael eu hargymell hefyd.”

Mae’r giatiau’n agor am 5.45pm, a’r digwyddiad yn dechrau am 6pm.

Mae tocynnau yn £21 i oedolion ac yn £18 i blant (ddim yn addas i blant o dan 13 oed). Mae’n rhaid i chi archebu lle. I archebu lle, ffoniwch 01646 651782. Sylwch nad oes modd cael ad-daliad ar docynnau.

I gael rhagor o wybodaeth am Gastell Caeriw, sy’n cael ei reoli gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, ewch i www.castellcaeriw.com.