Digwyddiad darganfod hanes yn dychwelyd i Gastell Caeriw

Posted On : 20/05/2024

Bydd digwyddiad poblogaidd ar thema hanes ac archaeoleg yn dychwelyd i Gastell Caeriw yn ddiweddarach y mis hwn, gan gynnig cyfle unigryw i archwilio hanes cyfoethog Sir Benfro a sut mae wedi siapio’r rhanbarth dros amser.

Mae Darganfod Hanes: Gorffennol Sir Benfro wedi cael ei drefnu ar y cyd ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed, a bydd nifer o grwpiau hanes ac amgueddfeydd lleol eraill yn ymuno â’r digwyddiad i gyflwyno amrywiaeth eang o sgyrsiau, casgliadau o amgueddfeydd, arddangosfeydd o arteffactau, a gweithgareddau archaeoleg ymarferol ar gyfer ymwelwyr o bob oed.

Yn ystod y digwyddiad, bydd ymwelwyr yn cael cyfle i sgwrsio ag arbenigwyr ac amaturiaid o wahanol feysydd, yn ogystal â chymryd rhan mewn sesiynau Saethyddiaeth a’r Ysgol Marchogion.

Bydd y sgyrsiau a gynhelir drwy gydol y dydd yn ymwneud â phynciau fel hanes arfau gwarchae, hanes Castell Caeriw, a hanes HMS Erebus – llong a adeiladwyd yn Noc Penfro ac sy’n enwog am ei theithiau darganfod arwrol a arweiniodd at ogoniant yn yr Antarctig a thrychineb yn yr Arctig.

Bydd dau berfformiad gan Greenala Music hefyd, a fydd yn arddangos cerddoriaeth ganoloesol, gwerin a Cheltaidd. Yn ogystal â hyn, bydd arddangosiadau o amrywiaeth o offerynnau traddodiadol a hanesyddol, a chyfle i archwilio rhai o eiriau caneuon canoloesol.

Dywedodd Daisy Hughes, Rheolwr Castell Caeriw:

“Os oes gennych chi ddiddordeb yn yr holl bethau sy’n gysylltiedig â gorffennol cyfoethog Sir Benfro, fyddwch chi ddim eisiau colli’r digwyddiad Darganfod Hanes!

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio unwaith eto gydag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed a grwpiau lleol eraill i ddod â’r digwyddiad hwn yn fyw ac i godi ymwybyddiaeth o’r darganfyddiadau hanesyddol ac archaeolegol diddorol sydd wedi dylanwadu ar ein dealltwriaeth o’r gorffennol.”

Bydd y sefydliadau a fydd yn bresennol yn cynnwys Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed, Mwynchwilwyr Sir Benfro, Canolfan Dreftadaeth Doc Penfro, Ymddiriedolaeth Muriau Tref Penfro, Cymdeithas Hanes Lleol Penfro a Chil-maen, Cyfeillion Eglwysi Digyfaill, a Phentref Oes Haearn Castell Henllys, a fydd wrth law ar gyfer ychydig o weithgareddau peintio wynebau a thaflu gyda chatapwlt o’r Oes Haearn.

Bydd Darganfod Hanes: Sir Benfro’r Oes a Fu yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn 1 Mehefin 2024 rhwng 10am a 4pm yng Nghastell Caeriw. Mae’r digwyddiad yn agored i bobl o bob oed ac mae’n rhad ac am ddim gyda’r pris mynediad arferol i’r Castell.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.castellcaeriw.com neu cysylltwch â’r Castell yn uniongyrchol drwy anfon e-bost at ymholiadau@carewcastle.com.

A group of children with trowels gathered around a patch of soil