Datganiad ar farwolaeth y Frenhines Elizabeth II

Cyhoeddwyd : 09/09/2022

Dywedodd y Cynghorydd Di Clements, Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro:

“Mae’n ddrwg calon gennym glywed am farwolaeth Ei Mawrhydi y Frenhines ac rydym yn cydymdeimlo’n ddiffuant â’r Teulu Brenhinol yn eu colled.

“Rydym yn wirioneddol ddiolchgar am saith deg mlynedd rhyfeddol Ei Mawrhydi o ymroddiad a gwasanaeth i’r genedl, a’r esiampl pendant a roddodd i bob un ohonom. Bydd cymunedau drwy’r Parc, ac ar draws Sir Benfro, yn gweld ei cholli wrth i ni ddod at ein gilydd i alaru’r un a dreuliodd y cyfnod hiraf ar yr orsedd. Roedd hi’n ffigwr cadarn ac annwyl ym mywyd pob un ohonom.

“Mae golau disglair wedi’i ddiffodd drwy golli Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II, ond byddwn yn cofio am ei hymroddiad i wasanaeth cyhoeddus am genedlaethau i ddod.”