Cynllun grantiau bach yn gwneud gwahaniaeth mawr i gymunedau lleol

Posted On : 07/04/2022

Mae cynllun grantiau bach Gweithredu dros Natur Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro bellach wedi bod ar waith ers blwyddyn, ac mae’n dathlu popeth sydd wedi’i gyflawni ers ei lansio.

Cafodd y cynllun ei sefydlu fis Mai diwethaf, ac roedd yn gwahodd grwpiau cymunedol a mudiadau lleol i wneud cais am grantiau bach o hyd at £500. Roedd angen i brosiectau naill ai gefnogi bioamrywiaeth, cyflawni o ran cadwraeth neu newid yn yr hinsawdd, neu addysgu eraill ar y pynciau hynny.

Bu’r cynllun yn boblogaidd, gyda 29 o geisiadau’n dod i law yn ystod ei flwyddyn gyntaf, gyda’i gilydd cyflwynwyd ceisiadau am £14,500 o gronfa grant £5,000 yn unig.

Cafodd cyfanswm o 12 safle cymunedol gyllid gan gynllun Gweithredu dros Natur i gefnogi gwelliannau bioamrywiaeth. Yn ychwanegol at hyn, mae 10 grŵp cymunedol sy’n cynnwys plant ac oedolion wedi bod yn ymwneud â chamau cadwraeth, ac mae dwy ardal gymunedol bellach yn cael eu clirio o sbwriel yn rheolaidd.

Yng Nghapel y Mynydd yn Llanteg, soniodd gwirfoddolwyr y grŵp pryfed peillio am gyfoeth o flodau gwyllt, gan gynnwys tegeirianau gwyllt, melynydd a chlefryn wedi iddyn nhw adael ardal o borfa isel heb ei phori yn ystod eu prosiect.

Rhoddodd cyllid Gweithredu dros Natur yr un pleser i ddisgyblion yn Ysgol Harri Tudur, a enillodd ychydig o sgiliau garddio sylfaenol yn ystod eu prosiect, yn ogystal â dysgu am gadwraeth a bywyd gwyllt lleol.

Mae’r gweithgareddau eraill a gyflawnwyd diolch i grantiau bach yn cynnwys creu dolydd blodau gwyllt a gerddi gloÿnnod byw, clirio pyllau cymunedol, BioBlitz bach, plannu coed a phlanhigion sy’n denu pryfed peillio, a phlannu ar gyfer ysgogi’r synhwyrau mewn mannau chwarae cymunedol a meysydd chwaraeon.

Dywedodd Jessica Morgan, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro: “Rydyn ni’n falch iawn o’r hyn mae cymunedau Gweithredu dros Natur wedi gallu ei gyflawni yn ystod 2021. Yn ogystal â rhoi cyfle gwych i ni gydweithio â grwpiau cymunedol a’u helpu i ddarparu gweithgareddau a phrosiectau sy’n cyd-fynd â’n hamcanion elusennol, mae’r prosiect wedi cefnogi bioamrywiaeth, wedi creu cynefinoedd a dolydd newydd er mwyn i bryfed peillio ffynnu, ac wedi clirio sbwriel yn y gymuned.”

I gael rhagor o wybodaeth am grantiau Gweithredu dros Natur ewch i: https://ymddiriedolaetharfordirpenfro.cymru/ein-gwaith-an-heffaith/cronfa-gweithredu-dros-natur/.

Mae’r prosiect hwn wedi cael ei ariannu gan Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a Lleoedd Lleol ar gyfer Byd Natur.

Mae Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn elusen sydd wedi’i chofrestru gan Gomisiwn Elusennau’r DU. Rhif cofrestru’r elusen yw 1179281.

School children benefit from Force for Nature grants