Cynllun cerdded cynhwysol yn ceisio mynd i’r afael ag unigrwydd drwy hybu pobl i symud

Cyhoeddwyd : 08/09/2021

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Parciau Cenedlaethol wedi bod ar flaen y gad fel esiamplau o les, gan gynnig cyfle i bobl ailgysylltu â byd natur a’i gilydd. Mae cynllun peilot newydd a gaiff ei gynnal gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn ceisio adeiladu ar hyn, a manteisio ar arbenigedd lleol i ddatblygu prosiect cerdded cwbl gynhwysol.

Nod y prosiect fydd cefnogi’r rheini sydd mewn perygl o gael eu hynysu a rhoi sgiliau a hyder i bobl o bob gallu fwynhau tirwedd ysblennydd y Parc Cenedlaethol, gan gynnwys pobl sy’n defnyddio cadeiriau olwyn. Mae wedi dechrau drwy dreialu cyfres o deithiau cerdded yn ystod misoedd yr hydref.

Mae Awdurdod y Parc nawr yn galw ar unigolion, defnyddwyr gwasanaethau, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol i gymryd rhan a helpu i lywio’r rhaglen newydd.

Dywedodd Hannah Buck, Swyddog Iechyd a Thwristiaeth ar gyfer Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro:

“Mae’r sefydliadau rydyn ni’n gweithio gyda nhw yn dweud bod llawer o bobl wedi symud llai yn ystod y cyfnodau clo a’u bod wedi cael eu hynysu’n gymdeithasol. Mae hyn yn ei dro wedi effeithio ar eu hyder i fynd allan a manteisio ar gyfleoedd i ofalu am eu lles corfforol a seicolegol.

“Bydd y prosiect yn edrych ar ffyrdd o gefnogi pobl i fynd am dro’n ddiogel i lefydd sy’n addas i’w hanghenion symudedd, yn cynnwys llwybrau sy’n addas ar gyfer cadeiriau olwyn a sgwteri, ac i ailgysylltu â’i gilydd a’u hamgylchoedd. Drwy ofyn i bobl am eu hadborth nawr, gallwn wneud yn siŵr bod ein cynlluniau’n berthnasol a’u bod yn cael eu rhoi ar waith mewn modd sy’n sicrhau mynediad i bawb.”

Ychwanegodd Sam Evans, Parcmon Darganfod yr Awdurdod ar gyfer Prosiect Walkability:

“Mae’r potensial i gael pobl i lefydd dydyn nhw erioed wedi bod o’r blaen yn gyffrous iawn. Mae’r prosiect yn agored i gynifer o gerddwyr â phosibl a’i nod yw defnyddio’r wybodaeth, yr arbenigedd a’r sgiliau anhygoel sydd ar gael yn Sir Benfro drwy weithio gydag amrywiaeth o bartneriaid. Byddai’n wych creu ateb a allai ysbrydoli llefydd eraill i fabwysiadu dulliau gwirioneddol gynhwysol.”

Wheelchair user being pushed on easy access path in Tenby

Cynhaliwyd y daith gerdded gyntaf ar ddydd Mercher 8 Medi, ac mae eraill ar y gweill ar gyfer dydd Mercher 13 Hydref a dydd Mercher 10 Tachwedd.

Dylai unrhyw unigolion neu sefydliadau sydd â diddordeb mewn cymryd rhan yn y prosiect hwn fynd i’n calendr digwyddiadau,

I gael rhagor o wybodaeth am deithiau cerdded, traethau a golygfannau hygyrch ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro, ewch i’r adran Mynediad i Bawb.