Cyfleoedd siopa a hwyl greadigol yn Oriel y Parc yr haf hwn

Cyhoeddwyd : 28/07/2022

Mae’r haf wedi cyrraedd Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc yn Nhyddewi, lle bydd Marchnad Grefft a rhaglen gyffrous o weithdai i blant yn cael eu cynnal dros yr wythnosau nesaf.

Gan adeiladu ar lwyddiant y stondinau dros dro y llynedd, bydd atyniad Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn cynnal Marchnad Grefftau Haf yn ei Iard rhwng 10am a 3pm ddydd Sadwrn 6 Awst. Mae mynediad am ddim ac mae’r digwyddiad yn gyfle gwych i ddarganfod yr anrheg berffaith neu i brynu rhywbeth bach i gofio, gan gefnogi artistiaid, crefftwyr a chynhyrchwyr lleol.

Bydd digon i ddiddanu plant hefyd, gyda gemau ffair draddodiadol am ddim yn yr ardal picnic a chyfle i gymryd rhan mewn collage cydweithredol i ddathlu ein Parc Cenedlaethol. Bydd Llwybr Hwyl yr Haf hefyd yn cael ei gynnal yn ystod y digwyddiad am £2 y plentyn, gyda gwobr fechan yn cael ei chynnwys.

Ond, mae’r hwyl greadigol yn parhau am fwy nag un diwrnod. Drwy gydol gwyliau’r haf, bydd plant yn gallu ymuno ag artistiaid lleol talentog yng ngweithdai celf a chrefft wythnosol Oriel y Parc. Cynhelir y rhain bob dydd Mercher drwy gydol mis Awst.

Ddydd Mercher 3 Awst, bydd Elly Morgan yn cynnal cyfres o weithdai creu gyda mwd a chlai. Ar 10 Awst mae cyfle i bobl ifanc dynnu lluniau byd natur drwy ymateb i synau a symudiadau a chreu eu llyfr natur eu hunain. Bydd y gweithdy dan arweiniad Hannah Rounding. Bydd Kate Evans yn cymryd yr awenau ddydd Mercher 17 Awst gyda sesiynau ar wehyddu gyda deunyddiau wedi’u hailgylchu, ac ar ddydd Mercher 24 Awst, bydd Hannah Rounding yn dychwelyd i arwain gweithdai dyfrlliw, gan ddefnyddio eitemau cartref wedi’u haddasu at ddibenion gwahanol.

Bydd y gweithdy celf a chrefft olaf yn sesiwn galw heibio dan arweiniad Parcmyn yr Haf ddydd Mercher 31 Awst, lle bydd y cyfranogwyr yn cael cyfle i wneud eu bomiau gwenyn eu hunain.

Dywedodd Claire Bates, Rheolwr Gwasanaethau i Ymwelwyr yn Oriel y Parc:

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr o bob oed yr haf hwn, yn ogystal â rhoi hwb i fusnesau lleol a chysylltu mwy o bobl ifanc â byd celf.

Rhaid archebu lle ar gyfer pob gweithdy. Nid oes terfyn oedran, ond gofynnwn i un oedolyn cyfrifol ddod gyda phob plentyn. Gellir archebu llefydd ar-lein heb unrhyw dâl i’r oedolion sy’n dod gyda nhw.”

I gael rhagor o wybodaeth am amseroedd y sesiynau, hyd y sesiynau a sut mae archebu eich lle, ewch i wefan Oriel y Parc.

Mae rhaglen lawn o ddigwyddiadau Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ar gael ar ein wefan digwyddiadau.