Cyfle i fwynhau teithiau arswydus, dathliadau Celtaidd a llawer mwy yn ystod Calan Gaeaf a gwyliau hanner tymor eleni

Cyhoeddwyd : 21/10/2022

Mae gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro dri atyniad i ymwelwyr sy’n cynnal digwyddiadau ar thema Calan Gaeaf dros yr hanner tymor hwn, gyda chyfres o brofiadau arswydus ar gael i bawb o bob oed.

Mae gan Castell Caeriw, Pentref Oes Haearn Castell Henllys ac Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc amrywiaeth o ddigwyddiadau Calan Gaeaf ar y gweill, gan gynnwys teithiau arswydus, sesiynau adrodd straeon, dathliadau Celtaidd a gweithgareddau celf a chrefft.

Stone mill building at dusk, location featured is Carew Mill

Yng Nghastell Caeriw, bydd nifer o ddigwyddiadau yn cael eu cynnwys fel rhan o’r pris mynediad arferol rhwng 27 Hydref a 6 Tachwedd. Bydd y digwyddiadau hyn yn cynnwys Taith Hud a Lledrith Perlysieuol ar 27 Hydref, a Chwedlau Pentan ar 29 a 30 Hydref. Ydych chi’n ddigon dewr i fentro drwy ddrysau’r Felin Arswydus a/neu ar hyd y Llwybr Bwganod Brain rhwng 29 Hydref a 6 Tachwedd?

Ar 1 Tachwedd, bydd cyfle i blant tair oed a hŷn fwynhau Hwyl a Sbri Calan Gaeaf wrth i Fairy Blackberry ac Incy Wincy Spider gynnal gweithdy rhyngweithiol llawn gemau, dawnsio, straeon, canu a hwyl. Mae’n rhaid i chi archebu lle.

Hefyd, bydd Gweithdy Adrodd Straeon: Room on the Broom yn cael ei gynnal lle daw llyfr lluniau hudolus Julia Donaldson yn fyw o flaen eich llygaid. Hefyd, bydd casgliad o straeon a gemau poblogaidd eraill a fydd yn siŵr o danio dychymyg y plant! Cynhelir tair sesiwn awr o hyd ddydd Iau 3 Tachwedd a dydd Gwener 4 Tachwedd. Bydd y sesiwn gyntaf yn dechrau am 10am, yr ail am 12pm a’r olaf am 2pm. Argymhellir y sesiynau hyn ar gyfer plant rhwng 4 ac 8 oed. Rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn.

I weld y prisiau, yr amseroedd agor ac i gadw eich lle, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/castell-caeriw.

Man breathing fire

Mae’r gyfres o ddigwyddiadau Calan Gaeaf ym Mhentref Oes Haearn Castell Henllys yn dechrau gyda Henllys Hunllefus. Dyma gyfle i ymwelwyr fwynhau taith gerdded hydrefol drwy’r coetir hudolus cyn cyrraedd y pentref ei hun, lle byddant yn cwrdd ag ysbrydion yr Oes Haearn. Gallwch hefyd ddilyn llwybr arswydus y pwmpenni am £2 ychwanegol. Mae’r gweithgareddau dyddiol yn cynnwys taith dywys, arddangosiad crefftau/sgiliau hynafol a sesiwn adrodd straeon.

Bydd Henllys Hunllefus yn cael ei gynnal rhwng 10am a 4.30pm o ddydd Sadwrn 22 tan ddydd Gwener 28 Hydref. Ar ddydd Sul 23 a dydd Sul 30 Hydref, bydd y diwrnod yn cynnwys Sesiwn Dawel, pan na fydd unrhyw weithgareddau swnllyd yn cael eu cynnal rhwng 10am a 1pm.

Bydd y Dathliad Samhain yn rhoi cipolwg i chi ar sut yr oedd pobl yr Oes Haearn yn dathlu’r ŵyl Geltaidd hynafol hon gyda gweithgareddau fel peintio wynebau, crefft cynnau tân, gwneud canhwyllau cwyr gwenyn a gwrando ar hanesion a chaneuon yr hen oes o amgylch tân y tŷ crwn. Wrth i’r haul fachlud, byddwch yn barod i gael eich syfrdanu gan berfformiad tân Damazo Inferno cyn iddo roi’r dyn gwiail ar dân! Cynhelir y Dathliad Samhain ddydd Sadwrn 29 Hydref rhwng hanner dydd a 5pm.

Bydd Taith Ysbrydion Henllys Hunllefus, sy’n addas i deuluoedd, yn eich cyflwyno i rai o greaduriaid a chymeriadau arswydus a hudolus llên gwerin Cymru wrth i chi deithio o amgylch y coetiroedd a’r Pentref. Ar ddiwedd eich taith, bydd cyfle i’r plant gael peintio eu hwynebau a chwarae ‘cast neu geiniog’ o gwmpas y pentref.

I gael y manylion llawn, yr amseroedd agor ac i archebu eich lle ar gyfer y digwyddiadau uchod, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/castell-henllys/.

Orange pumkins scattered around haybales

Ddydd Mercher 2 Tachwedd, bydd Kate Evans yn cynnal gweithdy Crefftau Arswydus Calan Gaeaf yn Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc, Tyddewi. Dyma gyfle i’r plant fynd ati i greu torch helyg a chlai arswydus ar gyfer Calan Gaeaf. Mae’r torchau hyn yn addas i’w hailddefnyddio, i’w hailgylchu ac yn ystyriol o adar, a byddant yn edrych yn wych ar ddrysau, mewn ffenestri, neu ar goed! Rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn. Bydd y sesiwn gyntaf yn dechrau am 10.30am, yr ail am 12.30pm a’r olaf am 2pm. Mae’n rhaid i chi archebu lle.

Bydd y Llwybr Arswydus Calan Gaeaf yn rhoi cyfle i blant chwilio o gwmpas y ganolfan a’r gerddi i ddod o hyd i’r arteffactau a’r cliwiau arswydus er mwyn datrys y pos a hawlio gwobr. £2 y plentyn, gyda gwobr arbennig!

Hefyd, bydd Arddangosfa Coetir yr Hydref yn cael ei chynnal rhwng dydd Sadwrn 22 Hydref a dydd Sul 6 Tachwedd – cyfle gwych i dynnu llun cofiadwy gyda theulu a ffrindiau ymysg y coed â’r dail. Cofiwch rannu eich lluniau ag Oriel y Parc ar Facebook, Twitter neu Instagram @OrielyParc.

Cofiwch ymweld â’r amrywiaeth o arddangosfeydd am ddim sydd ar gael, gan gynnwys Ar Eich Stepen Drws yn Oriel Amgueddfa Genedlaethol Cymru.

I gael yr amseroedd agor ac i archebu eich lle ar gyfer y digwyddiadau uchod, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/oriel-y-parc.

I weld holl ddigwyddiadau’r Parc Cenedlaethol, gan gynnwys y Diwrnod Archaeoleg ar 5 Tachwedd, ewch i’n wefan digwyddiadau.