Cronfa Datblygu Cynaliadwy yn cefnogi prosiectau cymunedol sy’n ymateb i argyfwng hinsawdd ac yn lleihau ôl troed carbon

Cyhoeddwyd : 07/12/2020

Bydd pedwar prosiect cymunedol sy’n ceisio lleihau allyriadau carbon ac ymateb i’r argyfwng hinsawdd yn cael cymorth gwerth dros £39,000 gan Gronfa Datblygu Cynaliadwy Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Yn ei gyfarfod ym mis Tachwedd, cytunodd Pwyllgor Cronfa’r Awdurdod i gefnogi ceisiadau gan Theatr Gwaun, Neuadd Bentref Marloes a Sain Ffraid, Mencap Sir Benfro Cyf. ac Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru.

Dywedodd Cadeirydd Pwyllgor y Gronfa, y Cynghorydd Mike James:

“Roeddem wrth ein bodd o weld cymaint o amrywiaeth yn y ceisiadau a ddaeth i law gan eu bod yn dangos y ffyrdd arloesol y mae cymunedau yn y Parc Cenedlaethol yn chwarae eu rhan i ymateb i’r argyfwng hinsawdd.

“Byddem yn annog unrhyw fudiad neu grŵp a gaiff ei arwain gan y gymuned sydd angen cymorth i ariannu prosiectau a fydd yn helpu i leihau carbon a/neu ymateb i newid yn yr hinsawdd, i wneud cais cyn gynted â phosib.”

Bydd Theatr Gwaun yn defnyddio’r cyllid i osod paneli solar fel rhan o’i gwaith i leihau faint o ynni a ddefnyddir yn y theatr, sinema a lleoliad digwyddiadau.

Bydd y cyllid a roddir i Neuadd Gymunedol Marloes a Sain Ffraid yn cyfrannu at brynu a gosod System Fatris i ategu system ffotofoltäig (PV) newydd, gan alluogi’r neuadd i storio unrhyw gyflenwad pŵer ac, yn ei thro, leihau costau rhedeg a lleihau ôl troed carbon y gymuned.

Rhoddwyd cymorth ariannol i Mencap Sir Benfro Cyf. er mwyn cyfrannu at bedwar maes o fesurau effeithlonrwydd ynni yng Ngerddi Ystagbwll, Sir Benfro yn cynnwys pibellau i gysylltu tanc casglu dŵr glaw â phwll, gwella insiwleiddio o amgylch pibellau dŵr poeth ac uned ynni solar ar gyfer gorsaf olchi.

Bydd cyllid Cronfa Datblygu Cynaliadwy Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru yn cyfrannu at wella systemau dŵr a phaneli solar ac uwchraddio systemau ar ynysoedd Sgomer a Sgogwm.

Aerial photograph of Skomer and Skokholm islands (by Lucy Griffiths)

Llun gan Lucy Griffiths

Ychwanegodd Lisa Morgan, Pennaeth Ynysoedd a Môr Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru:

“Rydyn ni wedi nodi sawl maes lle gallem leihau ein hallyriadau carbon ac arbed arian, er mwyn gallu ei wario’n well ar ein gwaith cadwraeth hanfodol.

“Bydd y grant hwn yn ein galluogi i ddod â hanfodion bywyd bob dydd i Sgomer a Sgogwm, gan ddiweddaru systemau solar presennol i gymeradwyo effeithlonrwydd a gosod hidlyddion UV i wneud dŵr ffynnon yr ynys yn ddiogel i’w yfed.

“Bydd y ddwy ynys yn gallu yfed eu dŵr ffynnon heb orfod ei ferwi’n gyntaf ac mae wardeiniaid a gwirfoddolwyr Sgogwm yn edrych ymlaen yn arw at y posibilrwydd o gael cawod boeth y tymor nesaf.”

Yn ogystal â’r pedwar prosiect llwyddiannus, gohiriwyd dau gais er mwyn cyflwyno rhagor o wybodaeth i’r pwyllgor ac roedd un yn aflwyddiannus.

Y dyddiad cau nesaf ar gyfer derbyn ceisiadau yw 12 hanner dydd, ddydd Llun 14 Rhagfyr 2020.

I gael rhagor o wybodaeth, i lwytho ffurflen gais i lawr neu i wneud cais ar-lein, ewch i dudalennu’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy.