Creu atgofion yn Nosweithiau Theatr Awyr Agored Castell Caeriw

Posted On : 07/07/2021

Dewch â’ch blancedi, cadeiriau cefn isel, picnics a phrosecco a dewch â’ch ffrindiau a theulu at ei gilydd ar gyfer haf cofiadwy o adloniant theatr awyr agored gwych yng Nghastell Caeriw.

Bydd y Castell, sy’n cael ei reoli gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, yn dod yn fyw gyda thri chynhyrchiad arbennig ym mis Gorffennaf a mis Awst, yn cynnwys The Great Gatsby, cynhyrchiad gan Dick Barton Special Agent, a Mr Stink gan David Walliams. Rhaid archebu lle yn www.carewcastle.com.

Ddydd Mawrth 27 Gorffennaf, gwisgwch eich dillad gorau, rhowch gynnig eto ar y Charleston ac ymunwch â Heartbreak Productions a phedwarawd Nick Carraway am noson o jazz yr 1920au, ar gyfer stori gariad chwerw-felys glasurol The Great Gatsby. Dewch â’ch prosecco – mae cyfnod y Gwahardd ar ben! £15 oedolyn, £12.50 consesiwn, £10 plentyn, £46 teulu (dau oedolyn, dau blentyn). Bydd y drysau’n agor am 6pm, a’r sioe yn dechrau am 7pm.

Mae Theatr Red Herring yn dychwelyd i Gastell Caeriw o ddydd Llun 2 Awst tan ddydd Gwener 6 Awst i gyflwyno’r gomedi wych hon sy’n addas i’r teulu, Dick Barton: Flight of the Phoenix. Mae Special Agent Barton, o gyfres radio 1940au’r BBC, yn camu i’r llwyfan yn ei antur fwyaf dychrynllyd eto. A fydd dewrder Dick yn diffygio o’r diwedd a’i wefus uchaf yn crynu ag ofn wrth iddo gwrdd â’r brawychus ddidosturus Mr Huge? £12 oedolyn, £10 consesiwn, £8 plentyn, £35 teulu (dau oedolyn, dau blentyn). Bydd y drysau’n agor am 6pm, a’r sioe yn dechrau am 7pm.

Ddydd Mawrth 24 Awst, bydd Mr Stink, cymeriad doniol David Walliams, sydd wedi gwerthu’n aruthrol ac sy’n cyffwrdd â’r galon, yn dod i’r llwyfan ar gyfer plant 7 oed a hŷn gan Heartbreak Productions. Nid oes croeso i ffrind newydd drewllyd Chloe, Mr Stink, mewn parti degfed pen-blwydd sy’n cael ei drefnu gan Janet Crumb, ymgeisydd i fod yn Aelod Seneddol. £15 oedolyn, £12.50 consesiwn, £10 plentyn, £46 teulu (dau oedolyn, dau blentyn). Bydd y drysau’n agor am 5.45pm, a’r sioe yn dechrau am 6.30pm. Bydd hufen iâ ar gael.

Yn ogystal â chadair cefn isel neu flanced, dewch â dillad cynnes, tortsh a phicnic os dymunwch. Mae diodydd poeth ar gael i’w prynu.

Nid oes posib cael arian yn ôl am y tocynnau a bydd y perfformiad yn cael ei gynnal mewn tywydd gwlyb. I gael rhagor o wybodaeth ac i archebu lle, ewch i www.carewcastle.com.

Dick Barton Flight of the Pheonix at Carew Castle

Heartbreak Productions The Great Gatsby