Castell Caeriw yn gorffen y flwyddyn gyda llwyddiant ysgubol

Posted On : 19/12/2023

Ar ôl ennill dwy wobr fawreddog yng Ngwobrau Croeso Sir Benfro, mae un o dirnodau mwyaf eiconig Sir Benfro wedi rhoi mwy fyth o reswm i ddathlu'r Nadolig hwn.

Er gwaethaf y gystadleuaeth gref, llwyddodd Tîm Gwasanaethau Ymwelwyr arbennig Castell Caeriw i gipio’r Wobr Twristiaeth Gynaliadwy ac Atyniad Ymwelwyr y Flwyddyn mewn seremoni fawreddog yng Ngholeg Sir Benfro ddechrau’r mis diwethaf.

Daw’r llwyddiant hwn yn ystod carreg filltir arbennig iawn, sy’n nodi 40 mlynedd ers i Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro gymryd rheolaeth dros yr atyniad.

Dywedodd Daisy Hughes, Rheolwr Castell Caeriw: “Mae llawer o bobl wedi bod yn rhan o’r daith hon – y tywyswyr cyfeillgar sy’n croesawu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn, yr archeolegwyr sydd wedi datgelu cyfrinachau’r Castell, y cadwraethwyr sy’n monitro bioamrywiaeth y safle, y seiri maen sydd wedi gwneud y waliau’n ddiogel a hyd yn oed y pobyddion medrus yn yr ystafell de!

“Hoffem ddiolch i’r holl unigolion ymroddedig sydd wedi chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o gynnal a chyfoethogi Castell a Melin Heli Caeriw dros y blynyddoedd. Mae eu brwdfrydedd, eu harbenigedd a’u hymroddiad diwyro wedi bod yn allweddol i gydnabod Castell Caeriw yn un o atyniadau mwyaf eiconig Sir Benfro i ymwelwyr.”

Yn ddiweddar, cynhaliodd y Castell ddigwyddiad o’r enw ‘Tywyn’, sef arddangosfa goleuadau Nadolig. Fel rhan o’r digwyddiad, cafodd ymwelwyr gyfle i fwynhau’r profiad o weld ochr ddwyreiniol y Castell wedi’i oleuo, yn ogystal ag arddangosfeydd atmosfferig newydd, ardal newydd sbon ar gyfer gemau a gweithgareddau ‘tywynnu yn y tywyllwch’, perfformiadau cerddorol byw, a Siôn Corn yn ei Groto hudolus.

Mae rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau eraill a fydd yn cael eu cynnal yng Nghastell Caeriw dros y misoedd ar gael yn www.castellcaeriw.com.

Staff from Carew Castle receiving their two