Cadeiriau olwyn y traeth ar gael ar gyfer anturiaethau’r gaeaf yn Sir Benfro

Posted On : 07/12/2021

Cafodd 14 o gadeiriau olwyn wedi’u dylunio’n arbennig i’w defnyddio ar y traeth eu cyflwyno’n llwyddiannus ar draws Arfordir Penfro yn yr haf eleni, ac mae rhai ar gael ar gyfer anturiaethau’r gaeaf. Mae’r cadeiriau olwyn yn galluogi mynediad awyr agored i rai o’r arfordiroedd godidocaf yn y DU.

Mae’r prosiect yn cael ei reoli gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, ac yn cael ei gyllido’n rhannol gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth gan gymunedau a sefydliadau sydd wedi helpu i gyllido’r cadeiriau mewn blynyddoedd blaenorol.

Dywedodd Sarah Beauclerk, Cydlynydd Mynediad Awyr Agored a Chadeiriau Olwyn y Traeth Awdurdod y Parc Cenedlaethol: “Mae gweld y gwahaniaeth cadarnhaol y mae cadeiriau olwyn y traeth wedi’i wneud i bobl wedi bod yn agoriad llygad ac yn ysbrydoliaeth. Mae’r profiad yn ychwanegu gwerth aruthrol at yr holl waith da sy’n digwydd yn y Parc Cenedlaethol.

“Mae digwyddiadau gyda phartneriaid elusennau anabledd, fel diwrnodau llwyddiannus Whizz-kidz a Versus Arthritis, a gynorthwywyd gan wirfoddolwyr a staff Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn ystod yr haf, wedi cyflwyno offer symudedd ar gyfer y traeth mewn amgylchedd naturiol gwych ar draws ystod eang o oedrannau a galluoedd.

“Roedden ni am roi gwybod i bobl y gall y rheini sydd ag anhawsterau symud gael gafael ar ein cadeiriau olwyn o hyd, ac ein bod wedi cael gwared ar yr angen i roi hysbysiad archebu 48 awr yn ystod y cyfnod tawelach hwn. Mae’n bwysicach nag erioed ein bod ni’n dod o hyd i ffyrdd o gefnogi mynediad at draethau trawiadol y Parc Cenedlaethol yn ystod y misoedd mwy gwlyp a thywyll – yn enwedig gan ein bod ni nawr yn gwybod bod treulio amser yn ymgolli mewn byd natur yn gallu arwain at lesiant corfforol a seicolegol gwell.

“Yn ogystal â’n cadeiriau olwyn ar gyfer y traeth, mae treiciau gwthio ar gyfer mynydda ar gael yng Nghastell a Melin Heli Caeriw. Mae gwybodaeth a chanllawiau diogelwch ar gael ar y safle archebu. Dylai pobl eu darllen cyn archebu er mwyn sicrhau eu bod nhw’n gallu defnyddio a gweithredu’r gadair yn ddiogel.

“Mae’r cadeiriau olwyn ar gyfer y traeth yn cefnogi amcanion ‘mynediad i bawb’ Awdurdod y Parc Cenedlaethol. Ni fyddai wedi bod yn bosibl iddyn nhw fod ar gael ar gyfer y tymor hwn heb gyfraniad y busnesau a’r grwpiau cymunedol lleol sydd wedi bod yn hael iawn trwy gynnal cadair olwyn ar y traeth ar gyfer tymor yr haf.”

Mae cadeiriau olwyn safonol ar gyfer y traeth ar gael, a nifer fach o rai i blant hefyd. Bydd cadeiriau olwyn y traeth ar gael mewn cymaint â phum traeth hygyrch yn Sir Benfro yn ystod y gaeaf.

Yn amodol ar argaeledd, mae hefyd yn bosibl benthyg cadair olwyn y traeth dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd. Gellir gwneud hyn drwy gysylltu â Sarah yn uniongyrchol.

Gallwch archebu cadair olwyn y traeth ymlaen llaw ar-lein ar https://www.arfordirpenfro.cymru/pethau-iw-gwneud/mynediad-i-bawb/cadeiriau-olwyn-y-traethau/, sy’n golygu y bydd cadair wedi ei chadw ar gael pan fyddwch yn cyrraedd y traeth o’ch dewis.

Mae rhagor o wybodaeth am gadeiriau olwyn y traeth, costau archebu a lleoliadau’r cadeiriau ar gael ar y safle archebu: https://www.arfordirpenfro.cymru/pethau-iw-gwneud/mynediad-i-bawb/cadeiriau-olwyn-y-traethau/.

I gael rhagor o wybodaeth am brosiect cadeiriau olwyn y traeth, cysylltwch â Chydlynydd Cadeiriau Olwyn y Traeth, Sarah Beauclerk, drwy e-bost: sarahb@arfordirpenfro.org.uk.