Byddwch yn barod am Benwythnos Canoloesol Caeriw

Posted On : 23/08/2022

Wrth i dymor haf bympar arall ddirwyn i ben, gwahoddir ymwelwyr â Chastell Caeriw i nôl eu gynau, tiwnigau a gwimplau gorau ar gyfer penwythnos o hwyl y canol oesoedd yn yr atyniad poblogaidd sy'n cael ei redeg gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

O ddydd Sadwrn 27 Awst to Monday 29 August, bydd y Castell yn gartref i ŵr pwysig o’r 15fed ganrif a’i gymdeithion. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd ymwelwyr yn gallu gweld bwrdd y swyddog wedi’i osod ar gyfer cinio, ymweld â chegin a gwersyll y milwr a dysgu am y saethwyr a’r gwarchodwyr sydd wedi tyngu llw i warchod eu meistr.

Bydd arddangosiadau saethu bwa hir gydag arfau Canoloesol dilys yn rhan o’r dathliadau, gyda digon o gyfleoedd i ymwelwyr iau gael profiad ymarferol. Cynhelir sesiwn Ysgol Marchog am ddim bob dydd am 10.30am, gyda chyfle i roi cynnig ar Saethyddiaeth rhwng 11am-3pm am dâl bach ychwanegol.

Dywedodd Rheolwr Castell Caeriw, Daisy Hughes: “Mae’r Penwythnos Canoloesol nesaf yn addo bod yn un o uchafbwyntiau’r tymor, gyda rhywbeth i apelio at bob aelod o’r teulu.

“Mae’r digwyddiad wedi ei gynnwys am ddim gyda’r ffi fynediad arferol, a does dim angen archebu llefydd o flaen llaw.

“Bydd Ystafell De Nest ar agor drwy gydol y penwythnos, yn gweini blas go iawn o Sir Benfro gyda chacennau cartref blasus, cinio ysgafn a choffi ardderchog.”

Bydd Penwythnos Canoloesol Castell Caeriw yn cael ei gynnal rhwng 10am a 4pm rhwng dydd Sadwrn 27 Awst a dydd Llun 29 Awst.

Am fwy o wybodaeth am ddigwyddiadau ledled y Parc Cenedlaethol, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/digwyddiadau.

An archer at the Castle walls