BETH YDYCH CHI’N EI FEDDWL O DWRISTIAETH GYNALIADWY?

Posted On : 04/11/2021

Mae Archwilio Cymru am glywed gan fusnesau twristiaeth ym Mharciau Cenedlaethol Cymru a'r cyffiniau ynglŷn â’r her o reoli twristiaeth gynaliadwy.

BETH YDYCH CHI’N EI FEDDWL O DWRISTIAETH GYNALIADWY?

Mae Archwilio Cymru am glywed gan fusnesau twristiaeth ym Mharciau Cenedlaethol Cymru a’r cyffiniau ynglŷn â’r her o reoli twristiaeth gynaliadwy.

Mae ein Parciau Cenedlaethol yn enghreifftiau sy’n bwysig yn rhyngwladol o sut y gellir diogelu tirweddau gweithio. Mae’r cysyniad o dirwedd warchodedig – ardal warchodedig lle mae pobl yn byw ac yn gweithio ynddi – o bwysigrwydd cynyddol mewn termau cadwraeth byd-eang.

Nid yw hyrwyddo cynaliadwyedd yn golygu atal twristiaeth. Yn hytrach, mae’n golygu darparu twristiaeth mewn ffyrdd sy’n diogelu ac yn gwella ein hamgylchedd naturiol gymaint â phosibl. Mae gwneud hyn yn llwyddiannus yn golygu taro’r cydbwysedd cywir rhwng sicrhau mwynhâd ymwelwyr a chynnal ein cymunedau a’n hamgylchedd.

CLICIWCH YMA I AGOR YR AROLWG

Mae’r arolwg yn rhan o adolygiad sy’n cael ei gynnal i gefnogi Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yng Nghymru i fynd i’r afael â’r her o ddarparu twristiaeth gynaliadwy.

Mae Archwilio Cymru am glywed gan fusnesau sy’n elwa o’r Parciau Cenedlaethol am sut mae’r tri Awdurdod:

  • yn gweithio i gefnogi twristiaeth gynaliadwy;
  • yn eich cynnwys yn eu gwaith ar dwristiaeth gynaliadwy; ac
  • eich cefnogi i fod yn fwy cynaliadwy.

Drwy dreulio ychydig funudau’n rhannu eich barn gallwch helpu i siapio dyfodol twristiaeth gynaliadwy yng Nghymru.