Awdurdod y Parc yn cyhoeddi rhifyn 40 o Coast to Coast i goroni blwyddyn o ddathliadau

Cyhoeddwyd : 31/03/2022

Mae papur newydd Sir Benfro i ymwelwyr, Coast to Coast, wedi ennill gwobrau ac mae rhifyn 40 bellach wedi cael ei gyhoeddi. Mae wedi helpu miliynau o drigolion ac ymwelwyr i ddysgu mwy am y Parc Cenedlaethol ers dechrau’r 1980au.

Mae Coast to Coast, a fydd yn cael ei ddosbarthu i dros 550 o fannau ledled Sir Benfro, yn llawn gwybodaeth am sut mae mwynhau Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn ddiogel ac yn gyfrifol, yn ogystal â chyngor ar sut gall bod yn egnïol yn yr awyr agored helpu i wella eich iechyd a’ch lles.

Mae’r cyhoeddiad eleni’n llawn achosion i’w dathlu gan fod 2022 hefyd yn nodi pen-blwydd y Parc Cenedlaethol yn 70 oed a degawd ers agoriad swyddogol Llwybr Arfordir Cymru.

Dywedodd Prif Weithredwr Awdurdod y Parc Cenedlaethol, Tegryn Jones: “Mae Coast to Coast yn sefydliad lleol sy’n dal yn boblogaidd iawn ymysg trigolion, busnesau ac ymwelwyr fel ei gilydd.

“Mae’r rhifyn eleni yn llawn awgrymiadau defnyddiol ar sut gall pobl gynllunio eu hymweliad, gan gynnwys gwybodaeth am dablau’r llanw, traethau, llwybrau cerdded, yn ogystal â chanllawiau ar gyfer ein safleoedd yng Nghastell Caeriw, Castell Henllys ac Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc.

“Mae’r Awdurdod yn hynod falch bod cynifer yn parhau i werthfawrogi’r holl waith caled a wneir i gynhyrchu’r cyhoeddiad hwn. Mae’n helpu i dynnu sylw at rai o drysorau cudd y Parc Cenedlaethol, y gwahanol ffyrdd y gall yr awyr agored wella eich iechyd corfforol a meddyliol, yn ogystal â’r heriau sy’n wynebu’r Parc wrth iddo ddathlu ei garreg filltir arbennig ei hun.”

Wrth i gopïau ddechrau cyrraedd y silffoedd, gallwch gael eich copi am ddim o siopau ledled Sir Benfro.

Bydd fersiynau o Coast to Coast ar gael ar ap ac ar-lein cyn bo hir ar ein tudalen Coast to Coast.