Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn ymgynghori ynghylch Cynllun Corfforaethol as Adonddau draft

Cyhoeddwyd : 15/06/2023

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro (APCAP) yn ymgynghori ynghylch ei Gynllun Corfforaethol ac Adnoddau drafft ar gyfer 2023/24 -26/27.

Mae’r Cynllun Corfforaethol ac Adnoddau 2023/24 – 26/27 hwn yn nodi trywydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro (APCAP) i gyflawni ei flaenoriaethau a’i Amcanion Llesiant.

Mae’r Cynllun yn crisialu Datganiad Llesiant yr Awdurdod a’r modd y mae ein Hamcanion Llesiant yn cyfrannu at y nodau Llesiant a’r heriau polisi ehangach sy’n wynebu’r tirweddau dynodedig, Cymru a’r Byd. Mae’n nodi sut y byddwn yn cyflawni ein huchelgeisiau drwy ein gweithgareddau creu lleoedd a’n camau gweithredu â blaenoriaeth yn ein cynlluniau cyflawni. Yn clustnodi sut fyddwn yn rhoi’r camau hyn ar waith i gyflawni canlyniadau trawsbynciol, mesur ein heffeithiau, a dosbarthu ein hadnoddau i ddiwallu ein Hamcanion Llesiant. Hefyd mae’n amlinellu ein camau blaenoriaeth ar gyfer gwella llywodraethu corfforaethol.

Lawrlwythwch Cynllun Corfforaethol ac Adnoddau Drafft Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. 2023/24-26/27

 

Sut mae ymateb.

Rydym yn croesawu unrhyw sylwadau neu adborth ar y Cynllun Corfforaethol ac Adnoddau drafft. Derbynnir ymatebion 7 Gorffennaf 2023.

Anfonwch unrhyw ymatebion ar ebost i mairt@pembrokeshirecoast.org.uk (gan nodi Cynllun Corfforaethol ac Adnoddau yn nheitl y pwnc) neu at y Cydlynydd Perfformiad a Chydymffurfiaeth, Swyddfa’r Parc Cenedlaethol, Parc Llanion, Doc Penfro, Sir Benfro, SA72 6DY.

 

Hysbysiad Preifatrwydd – Ymgynghoriad ar Gynllun Corfforaethol ac Adnoddau

Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn ymdrin â’r modd y bydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro (fel Rheolwr Data) yn prosesu unrhyw ddata personol a ddarperir gennych fel rhan o’ch ymateb i’r ymgynghoriad ar ein Cynllun Corfforaethol ac Adnoddau drafft. I gael rhagor o wybodaeth am y modd y mae’r Awdurdod yn prosesu’ch gwybodaeth, gan gynnwys eich hawliau fel gwrthrych y data a’r modd y mae arfer yr hawliau hynny, dylech ymgynghori â Hysbysiad Preifatrwydd safonol yr Awdurdod, neu gysylltu â Swyddog Diogelu Data yr Awdurdod.

 

Diben – Pam y mae angen eich gwybodaeth arnom

Y dibenion yr ydym yn prosesu eich data personol ar eu cyfer yw:

  • i brosesu’r ymatebion i’r ymgynghori a chadarnhau ein bod wedi derbyn yr ymateb
  • i roi adborth i unrhyw ymatebion a ddarperir
  • i gadw cofnod o’r ymatebion i’r ymgynghori a dderbyniwyd.

 

Y data personol sy’n cael ei gasglu

Byddwn yn prosesu’r data personol canlynol i brosesu’r ymatebion i’r ymgynghori, cadarnhau derbyn yr ymateb, a rhoi adborth i unrhyw ymatebion a ddarperir: enw, sefydliad / grŵp, manylion cyswllt a ddarperir – e-bost, cyfeiriad post.

 

Ein sylfaen gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol

Y sail gyfreithlon yr ydym yn dibynnu arni i brosesu data personol at y dibenion a restrir uchod yw erthygl 6 (1) o GDPR y DU:

  • (e) – tasg gyhoeddus (diwallu rhwymedigaethau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) ar gyfranogi).

 

Rhannu gwybodaeth

Bydd yr Awdurdod o bosibl yn cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol. Byddwn hefyd o bosibl yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Ni fyddwn yn cyhoeddi unrhyw enwau, na manylion cyswllt yr unigolyn a anfonodd yr ymateb. Os darperir ymateb ar ran sefydliad neu grŵp byddwn o bosibl y cyhoeddi enw’r grŵp neu’r sefydliad gyferbyn â’r ymateb. Os ydych yn ymateb ar ran sefydliad / grŵp ac nad ydych yn dymuno i enw’r sefydliad / grŵp gael ei gyhoeddi, dywedwch hynny wrthym yn ysgrifenedig pan fyddwch yn anfon eich ymateb.

 

Cadw data

Bydd APCAP yn cadw eich data personol sy’n ymwneud â’ch ymateb ar ein seilwaith TG corfforaethol am hyd at dair blynedd.