Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn ymgynghori ynghylch Cynllun Corfforaethol ac Adnoddau drafft

Cyhoeddwyd : 22/02/2021

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn ymgynghori ynghylch ei Gynllun Corfforaethol ac Adnoddau drafft ar gyfer 2021/22, sy’n amlinellu ei brif raglen waith a’i brosiectau ar gyfer y flwyddyn i ddod.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn golygu bod dyletswydd ar yr Awdurdod i nodi ei Amcanion Lles ac i ddangos sut mae’r rhain yn cyfrannu at y saith Amcan Lles a nodir yn y Ddeddf.

Mae’r Cynllun Corfforaethol ac Adnoddau, yn nodi’r amcanion hyn ac yn egluro sut bydd rhaglen gwaith yr Awdurdod yn cyfrannu at yr amcanion hyn.

Dyma’r Amcanion Lles:

  1. Annog a chefnogi’r gwaith o ddatblygu busnesau a chyflogaeth gynaliadwy, yn enwedig ym maes twristiaeth a hamdden
  2. Gwella iechyd ecosystemau’r Parc Cenedlaethol
  3. Galluogi ac annog mwy o bobl i wella eu lles drwy ddefnyddio mwy ar y Parc Cenedlaethol, ni waeth beth yw eu hamgylchiadau
  4. Parhau i sicrhau bod cydraddoldeb wedi’i wreiddio yng ngwaith a diwylliant Awdurdod y Parc Cenedlaethol
  5. Gweithio ochr yn ochr â chymunedau i’w helpu i wneud y mwyaf o Awdurdod y Parc Cenedlaethol
  6. Gwarchod a hyrwyddo’r diwylliant lleol sef iaith, celfyddydau a threftadaeth yr ardal
  7. Sicrhau bod ein gwaith yn gwneud cyfraniad cadarnhaol i les byd-eang.

Byddwn yn ceisio adolygu ein Hamcanion Llesiant a blaenoriaethau’r Awdurdod yn 2021/22. O ganlyniad, ni wnaed unrhyw newidiadau i’n hamcanion llesiant presennol

Mae’r Awdurdod wrthi’n ymgynghori ar y cynllun drafft hwn ac mae’n croesawu sylwadau y gellir eu hanfon yn ysgrifenedig i Barc Llanion, Doc Penfro, Sir Benfro, SA72 6DY neu ar e-bost at gwybodaeth@arfordirpenfro.org.uk. Rhaid iddynt gyrraedd cyn 9 Mawrth 2021.

Cliciwch yma i weld y Cynllun Corfforaethol ac Adnoddau drafft ar gyfer 2021/22.

Diogelu Data a chyhoeddi ymatebion

Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro fydd y rheolwr data ar gyfer unrhyw ddata personol a rowch fel rhan o’ch ymateb i’r ymgynghoriad.

Mae Cynllun Corfforaethol ac Adnoddau yn nodi Amcanion Llesiant Corfforaethol Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir sy’n un o ofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a’n rhaglen waith cysylltiedig ar gyfer y flwyddyn a fydd yn cefnogi cyflawni’r amcanion hyn. Mae cynnwys yn un o’r egwyddorion datblygu cynaliadwy o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Dim ond mewn cysylltiad ag adolygu Cynllun Corfforaethol ac Adnoddau y defnyddir gwybodaeth bersonol. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff yr Awdurdod Parc Cenedlaethol sy’n delio â’r adolygiad o Gynllun Corfforaethol ac Adnoddau. Os byddwch yn cysylltu â ni drwy e-bost neu drwy’r post, byddwn yn cysylltu â chi i gadarnhau ein bod wedi derbyn eich sylwadau.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae’r Awdurdod Parc Cenedlaethol yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’r ddogfen hon. Ni fydd enw unigolion yn cael ei gyhoeddi, ond os ydych yn ymateb ar ran sefydliad bydd enw’r sefydliad yn cael ei gyhoeddi ochr yn ochr â’r ymateb. Gall hefyd gyhoeddi ymatebion yn llawn, bydd unrhyw wybodaeth bersonol a gynhwysir mewn sylwadau yn cael ei golygu.

Fel arfer, cyhoeddir enw’r person neu’r sefydliad a anfonodd yr ymateb gyda’r ymateb. Os nad ydych am i’ch enw gael ei gyhoeddi, rhowch wybod i ni yn ysgrifenedig pan fyddwch yn anfon eich ymateb. Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o’r ymateb i’r ymgynghoriad, yna bydd yr adroddiadau cyhoeddedig hyn yn cael eu cadw am gyfnod amhenodol. Bydd unrhyw ddata personol arall yn cael ei ddileu ar ddiwedd y broses o adolygu’r Cynllun Rheoli.

Bydd data personol a ddarperir yn cael ei ddileu ar ddiwedd proses adolygu’r Cynllun Corfforaethol ac Adnoddau.

I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau, darllenwch ein Hysbysiad Preifatrwydd.