Apêl i bobl sy’n cerdded eu cŵn i gadw rheolaeth ar anifeiliaid anwes yn ystod y tymor wyna

Cyhoeddwyd : 06/04/2021

Mae hi’n dymor wyna ac mae llawer o’r llwybrau cyhoeddus yn croesi caeau o ddefaid, felly mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn apelio ar bobl sy’n cerdded eu cŵn i ddilyn yr arferion gorau pan fyddant allan yng nghefn gwlad.

Wrth gerdded Llwybr Cenedlaethol Llwybr Arfordir Sir Benfro yn ogystal â hawliau tramwy cyhoeddus a llwybrau ceffylau eraill, gwnewch yn siŵr:

  • Eich bod bob amser yn cadw cŵn ar dennyn byr ac o dan reolaeth agos pan fydd defaid a da byw eraill gerllaw
  • Eich bod yn glanhau ar ôl eich ci; rhowch y baw mewn bag a’i roi yn y bin os gallwch chi, neu fynd ag ef gyda chi – peidiwch â gadel bagiau baw yng nghefn gwlad.

Dywedodd Meurig Nicholas, Swyddog Hawliau Tramwy Awdurdod y Parc Cenedlaethol:

“Os aiff eich ci o’ch golwg neu os na fyddwch yn ei reoli’n iawn, efallai y bydd yn mynd ar ôl y defaid ac yn tarfu neu’n ymosod arnynt. Gall defaid cyfoen sy’n bryderus a dan straen erthylu neu gam-esgor eu hŵyn.

“Mae ŵyn ifanc hefyd yn agored iawn i niwed yn ystod y cyfnod hwn, a gallan nhw fod yn ofidus iawn a marw hyd yn oed os ydyn nhw’n cael eu gwahanu oddi wrth eu mamau neu’n cael eu gadael ar ôl i gŵn redeg ar eu holau.”

Hefyd, rydym wedi gweld achosion lle mae cŵn wedi gorfod cael eu hachub o glogwyni oherwydd nad oedden nhw wedi cael eu cadw o dan reolaeth agos.

Ychwanegodd Mr Nicholas:

“Mae’r sefyllfaoedd hyn wedi golygu bod gwasanaethau brys fel Gwylwyr y Glannau ac RNLI wedi gorfod nôl ac achub cŵn. Byddai modd osgoi achosion o’r fath, sy’n rhoi pwysau diangen ychwanegol ar ein gwasanaethau brys prysur.”

I gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys Cod Ymddygiad Cerdded eich Ci Awdurdod y Parc Cenedlaethol, ewch i’n dudalen Cerdded eich ci.