Annog Ymwelwyr i Beidio â Dod i Sir Benfro dros Wyl y Banc

Cyhoeddwyd : 06/05/2020

Gyda Gŵyl y Banc ar y trothwy, mae ymwelwr a pherchnogion ail gartrefi yn cael eu hannog i barhau i gadw draw o Sir Benfro.

Y neges oddi wrth Bartneriaeth Cyrchfan Sir Benfro yw y bydd y Sir yn dal yma unwaith bydd yr argyfwng hwn drosodd.

“Mae Sir Benfro’n hardd, a phan fydd yr amser a’r amgylchiadau yn iawn, mi fyddwn yn eich croesawu. Ond nid nawr,” dywedodd y Cynghorydd David Simpson, Arweinydd Cyngor Sir Penfro.

“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi parchu’r cyfyngiadau ac wedi aros gartref cyn belled.”

Ychwanegodd Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, y Cynghorydd Paul Harries: “Mae Sir Benfro wedi ennill ei lle fel un o’r lleoliadau gorau ar gyfer ymwelwyr yn y DU, felly mae’n annaturiol i ni ofyn i ymwelwyr gadw draw.”

“Fodd bynnag, gwarchod ein cymunedau gwledig yw ein blaenoriaeth ar hyn o bryd, a’r unig ffordd i ni wneud hyn yw sicrhau bod pawb yn cadw at ganllawiau’r Llywodraeth.

“Rydym yn gofyn i bobl barhau i fod yn amyneddgar, aros yn eu prif gartref, ac ond dod yma i ymweld pan fydd yr amser yn iawn.

Dywedodd Jane Rees-Baynes, Cadeirydd Twristiaeth Sir Benfro, bod ‘llawer o bryder o fewn y sector’ o hyd ac ‘y bydd pobl yn cael eu temtio i ymweld â’n hardal hardd, er ei bod yn erbyn y gyfraith i wneud hynny’.

“Rydym yn eich annog, yn wir, yn ymbil arnoch i beidio â theithio i Sir Benfro yn ystod gŵyl y banc,” meddai.

“Byddwn yma yn barod i’ch croesawu pan fydd y cyfyngiadau wedi cael eu codi, a phan fydd hi’n ddiogel i ddychwelyd.”

Mae Cyngor Sir Penfro, ar y cyd â Heddlu Dyfed Powys wedi ysgrifennu at berchnogion hyd at 6,000 o dai gwyliau (gan gynnwys ail gartrefi a llefydd gwyliau ar osod) yn eu prif gyfeiriadau, yn eu hannog i aros gartref.

Mae’r llythyr yn dweud “Y weithred bwysicaf oll ar hyn o bryd yw atal yr haint rhag lledaenu, lleihau’r pwysau ar ein gwasanaethau brys sydd dan straen yn barod, ac yn bennaf arbed bywydau”, ac mae wedi ei lofnodi gan y Prif Weithredwr, Ian Westley a’r Prif Gwnstabl, Mark Collins gyda chefnogaeth Fforwm Gydnerth Lleol Dyfed-Powys.

Annog Ymwelwyr i Beidio â Dod i Sir Benfro dros Wyl y Banc

Mae’n ychwanegu “Mae’r ymateb gan y cyhoedd a’r busnesau, ar y cyfan wedi bod yn eithriadol, gyda’r rhan fwyaf o bobl yn gweithredu er lles ein cymunedau, er gwaethaf yr heriau eithafol mae hyn yn medru ei amlygu. Rydym felly’n eithriadol o ddiolchgar am yr ymroddiad a’r aberthu a wnaed.

“Fodd bynnag, dros y cyfnod mae mesurau’r cyfyngiadau symud wedi bod mewn grym, rydym wedi derbyn adroddiadau o bobl yn cyrraedd anheddau amrywiol yn y Sir– yn honni eu bod yn mynd yn groes i’r cyfyngiadau. Os yw hyn yn wir, mae hyn yn peryglu mesurau rheoli’r afiechyd ac yn rhoi bywydau mewn perygl.”

Ychwanegodd Iwan Thomas, Prif Weithredwr PLANED:

“Mae ein cymunedau ar draws Sir Benfro wedi parchu ac wedi gweithio o fewn canllawiau mesurau cyfyngu symudiadau. Fodd bynnag, mae nerfusrwydd cynyddol o weld ymwelwyr posib o lefydd eraill yma yr amser hwn, fyddai’n medru amlygu ein poblogaeth i risgiau allanol a fyddai’n annheg, ac yn sicr ddim yn cael ei groesawu yn ystod y cyfyngiadau symud.

“Rydym angen rhoi blaenoriaeth i warchod a diogelu ein cymunedau ein hunain ar yr adeg hon, yna estyn croeso i ymwelwyr rywbryd eto, ond dim ond pan fydd yn ddiogel i wneud hynny.”

Mae Partneriaeth Cyrchfan Sir Benfro yn cynnwys Cyngor Sir Penfro, Awdurdod Park Cenedlaethol Arfordir Penfro, Twristiaeth Sir Benfro a PLANED.