Aelodau newydd yn ymuno â Thîm Parcmyn Haf Arfordir Penfro
Mae pedwar Parcmon Haf newydd wedi dechrau ar eu swyddi tymhorol yn cefnogi staff Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ar lawr gwlad wrth i dymor prysur yr haf barhau.
Bydd Lauren Dunkley, Maisie Sherratt, Megan Greenhalgh a Megan Holt wrth law i gynnig cymorth, gwybodaeth a chyngor i drigolion ac ymwelwyr ar draethau a lleoliadau allweddol eraill o amgylch y Parc Cenedlaethol.
Rhai o brif gyfrifoldebau’r rolau hyn yw helpu pobl ddysgu mwy am y Parc Cenedlaethol drwy gynnig gweithgareddau am ddim fel archwilio pyllau creigiog, darparu canllawiau pwysig fel amseroedd y llanw ac adnoddau am ddim fel taflenni a’r papur newydd i ymwelwyr, Coast to Coast.
Gyda llawer mwy o bobl yn ymweld â’r ardal eleni, maent hefyd yn gallu cynnig arweiniad ar leoliadau amgen a defnyddio eu gwybodaeth leol i helpu i liniaru problemau gorlenwi.
Dywedodd Megan H., sy’n byw yn Nhyddewi ac a fydd yn gwasanaethu Gogledd a Gorllewin Sir Benfro yn bennaf:
“Rwy’n edrych ymlaen at gyflwyno ymwelwyr chwilfrydig i’r ardal a dangos rhyfeddodau’r Parc Cenedlaethol iddynt, yn ogystal â bod yn rhan o’r gwaith gydag ysgolion, grwpiau a’r gymuned leol i’w galluogi i fwynhau eu Parc Cenedlaethol yn well.”
Dywedodd Maisie, sy’n byw ym Mhenfro ac a fydd yn gwasanaethu arfordir y de yn bennaf:
“Fe wnes i astudio modiwlau ymgysylltu ag ymwelwyr yn y Brifysgol, felly mae’r cyfle i roi’r hyn rydw i wedi’i ddysgu ar waith yn wych. Rwy’n gobeithio y bydd y swydd hon yn agor drysau newydd i mi, gan yr hoffwn weithio yn y sector hwn yn barhaol un diwrnod.”
Dywedodd Megan G., sy’n dod o Faenclochog ac a fydd wedi’i lleoli’n bennaf ar y traethau o amgylch arfordir y gogledd:
“Rwy’n edrych ymlaen at gwrdd ag amrywiaeth o bobl a rhannu fy angerdd dros y sir a’i bywyd gwyllt gyda nhw.
Ychwanegodd Lauren, sy’n byw yn Noc Penfro ac a fydd yn gwasanaethu’r de:
“Rwy’n gobeithio ysbrydoli llawer o bobl a theuluoedd i archwilio rhyfeddodau’r Parc, gan ddod i adnabod y dirwedd, ei bywyd gwyllt a’i nodweddion arbennig.”
Cadwch lygad am Barcmyn Haf newydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Megan Greenhalgh (y gornel chwith uchaf), Megan Holt (y gornel dde uchaf), Maisie Sherratt (y gornel chwith isaf) a Lauren Dunkley (y gornel dde isaf).
Dywedodd Libby Taylor, Rheolwr Gwasanaethau Porthmyn Awdurdod y Parc Cenedlaethol:
“Rydym wrth ein bodd ein bod wedi gallu ehangu’r cynllun hwn i groesawu pedwar aelod newydd i’r tîm, ar ôl dechrau gydag dim ond un Parcmon Haf ychydig flynyddoedd yn ôl.
“Mae cael pedwar Parcmon Haf yn ein galluogi i wasanaethu llawer mwy o’r arfordir a helpu mwy o bobl i fwynhau a dysgu am y Parc Cenedlaethol, gan gynnwys pam ei bod yn bwysig bod yn ofalus a pheidio â gadael unrhyw olion; negeseuon sydd hyd yn oed yn fwy arwyddocaol wrth i fwy a mwy o bobl ymweld â’r Parc.”
I gael gwybod beth mae’r Parcmyn Haf yn ei wneud, hoffwch y dudalen Facebook Pembrokeshire Coast Rangers neu dilynwch @SummerRangers ar Twitter.