Adrodd straeon, crefftau, cystadlaethau a mwy ar stondin Awdurdod y Parc yn Sioe Sir Benfro

Cyhoeddwyd : 11/08/2023

Bydd amrywiaeth o weithgareddau a chystadlaethau am ddim ar gael yn stondin Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn Sioe Sir Benfro 2023, gyda’r nod o annog pobl i ddysgu mwy am y Parc, ei fywyd gwyllt a sut y gall pawb chwarae eu rhan i droedio’n ysgafn a hybu bioamrywiaeth.

Wedi’i lleoli ar gornel y Prif Rodfa a’r Rhodfa Ganolog, bydd gan stondin Awdurdod y Parc ddigon i ddiddanu a rhoi gwybodaeth i bobl o bob oed beth bynnag fo’r tywydd, o sesiynau adrodd straeon cyffrous a gweithdai celf a chrefft ysbrydoledig i wybodaeth ddefnyddiol am Arfordir Penfro.

Dywedodd Marie Parkin, Pennaeth Cyfathrebu a Marchnata’r Awdurdod:

“Mae Sioe Sir Benfro yn un o uchafbwyntiau’r calendr digwyddiadau lleol a gobeithiwn y bydd llawer o aelodau’r gymuned amaethyddol a’r cyhoedd ehangach yn heidio i weld y gorau o’r hyn sydd gan y sir i’w gynnig.

“Yn ogystal â’r adrodd straeon anhygoel a’r gweithgareddau celf ymarferol, bydd stondin yr Awdurdod yn cynnwys digon o gyfleoedd i gael gwybodaeth am y Parc Cenedlaethol a sut y gall pobl fwynhau’r hyn sydd ganddo i’w gynnig yn ddiogel ac yn gynaliadwy. Estynnir croeso cynnes i bawb.”

Man standing in front of stone castle wall. Man pictured is Phil Okwendy.

Bydd yr adroddwr straeon Phil Okwedy yn cynnal dwy sesiwn adrodd straeon arbennig ddydd Mercher 16 Awst, gan berfformio stori sy’n canolbwyntio ar iechyd afonydd, wedi’i lleoli yn Afon Cleddau a’i chyffiniau. Cynhelir y sesiynau am 11am a 2pm.

Ddydd Iau 17 Awst, bydd gweithdai creu canhwyllau am ddim drwy gydol y dydd dan arweiniad Bella Chandley o Just Bee.

Woman leaning over table making a print as part of an arts and crafts activity

Bydd yr artist lleol Hannah Rounding yn cynnal gweithgaredd celf am ddim ar y ddau ddiwrnod, gan helpu plant i greu hongiwr anifeiliaid wedi’i ysbrydoli gan ddarluniau Jackie Morris yn The Lost Words gan ddefnyddio papur lliw a phaent.

Bydd cyfle hefyd i ennill gwobrau gwych drwy gwblhau cystadleuaeth blodau gwyllt yn ogystal â chyfle i godi arian ar gyfer Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro gyda chystadleuaeth Enwi’r Pâl a thombola.

I gael gwybod mwy am Sioe Sir Benfro a phrynu tocynnau, ewch i www.pembsshow.org.

I gael rhagor o wybodaeth am Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro, ewch i www.arfordirpenfro.cymru.