Lydstep/Penalun

Taith Hanner Dydd +

PELLTER/HYD: 6.4 milltir (10.3 km) 3 awr 30 munud
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth pentref Lydstep 349, 360, parc gwyliau, Bws gwasanaeth Penalun 349, 360
CYMERIAD: Ymyl clogwyn, graddfa gymedrol, caeau a da byw, 600 m (650 llath) o gerdded ar isffyrdd, 100 m (110 llath) o gerdded ar briffordd
MWY O WYBODAETH: Dau fan croesi – ar y priffordd ac ar draws rheilffordd gweithredol
CHWILIWCH AM: Ogofau clogwyni • golygfeydd o’r arfordir • cwm afon • clogwyni carreg galch • pentrefi prydferth St Florence a Phenalun • golygfeydd tua’r tir • golygfeydd o Ynys Bŷr

Mae hanes Penalun yn mynd yn ôl i’r Oes Cerrig. Bryd hynny, anheddwyr cynharaf Sir Benfro oedd yr helwyr-gasglwyr a oedd yn byw yn ogof Hoyle’s Mouth, ychydig uwchben y Rhydeg nid yn bell o’r llwybr.

Credir bod rhywrai’n byw yn yr ogof tua 25,000 o flynyddoedd yn ôl, yn ystod yr Oes Iâ diwethaf.

Defnyddiwyd yr ogof fel cysgodfa am filoedd lawer o flynyddoedd, ac mae wedi cyflwyno pob math o arteffactau a oedd yn eiddo i’r helwyr-gasglwyr a oedd yn byw ynddi, gan gynnwys llafnau fflint a chrafwyr, ac esgyrn mamoth, udfil, arth a charw.

Gellir gweld rhai o’r pethau y daethpwyd o hyd iddynt yn Amgueddfa Dinbych-y-pysgod. Yn Lydstep, mae band llydan  o Garreg Galch Carbonifferaidd Sir Benfro yn cwrdd â’r môr, gan greu rhai o graigluniau gorau’r sir.

Ar un adeg, roedd smyglwyr yn storio’u contraband yn un o’r ogofau niferus yn yr ardal ac roedden nhw’n arfer chwarelu craig carreg galch o Bwynt Lydstep Mae Tîm Jones, cyn-Barcmon Sector y De gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, yn dweud: “Mae rhannau o’r llwybr hwn yn dilyn llwybr hirsefydledig iawn. Nes i’r chwarel yn Lydstep gau yn rhan olaf y 19eg ganrif, roedd y chwarelwyr yn arfer cerdded y ffordd yma at eu gwaith ac yna adref eto”.

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SS098988

CYMERWCH OFAL!

  • Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
  • Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
  • Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
  • Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
  • Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
  • Cofiwch gau gatiau