Diogelu Data a Rhyddid Gwybodaeth

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi ymrwymo i weithredu’n agored ac wedi mabwysiadu’r cynllun cyhoeddi enghreifftiol a ddarperir gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

Fel arfer, fe fydd y cyhoedd yn gallu archwilio’r wybodaeth a gedwir gan yr Awdurdod, ac eithrio ble mae angen parchu hawliau pobl eraill neu ddiogelu buddiannau cyfreithlon yr Awdurdod.

Fe fydd mynediad agored a thryloyw at wybodaeth a gedwir gan yr Awdurdod yn cyfoethogi enw da’r Awdurdod am atebolrwydd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd. Wrth gadw at yr ymagwedd hon, mae’r Awdurdod yn cynnal safonau uchel o ran diogelu gwybodaeth bersonol.

Mae’r Awdurdod yn cadw Cynllun Cyhoeddi (fel sy’n ofynnol yn ôl Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000) sy’n rhestru’r mathau o wybodaeth sydd ar gael a ble mae modd cael hyd i’r wybodaeth honno.  Ble’n bosib, cyhoeddir gwybodaeth ar-lein ac yn rhad ac am ddim. Ceir manylion pellach ynglŷn â’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a’r Polisi Diogelu Data, a sut i geisio am wybodaeth, yn ein hadran Dogfennau Corfforaethol.