Canllawiau Cynllunio Atodol Tai Fforddiadwy Dros Dro

Tai Fforddiadwy: Fel mesur dros dro mae Canllawiau Cynllunio Atodol – Cynllun Datblygu Lleol 1 yn cael eu diweddaru.

Maes o law bydd Canllawiau Cynllunio Atodol Cynllun Datblygu Lleol 2 yn cael eu llunio gyda Chyngor Sir Penfro i chi eu hystyried.

Y newidiadau i’w nodi yw:

1. Mae’r cyfeiriadau at Bolisi Cynllunio Cymru wedi’u diweddaru i Argraffiad 10.
2. Asesiad Marchnad Tai Lleol – cyfeirir at yr asesiad diwethaf.
3. Trosglwyddo tai rhent cymdeithasol i Landlord Cymdeithasol Cofrestredig. Mae gostyngiad yn y swm a dderbynnir i 42% o brisiau Canllawiau Cost Derbyniol. Dyma’r sylfaen y cytunwyd ar bolisi tai fforddiadwy Cynllun Datblygu Lleol 2.
4. Cyfeirir at bolisi newydd y Cynllun Datblygu Lleol ar Safleoedd Eithriadau Tai Fforddiadwy.
5. Cyfeirir at Bolisi Dyrannu Tai a Safleoedd Mawr 48 – mae’n cynnwys rhestr newydd o safleoedd.
6. Cyfeirir at Bolisi Tai Fforddiadwy Newydd 49 a Thabl 9 gofynion ardal marchnad tai fforddiadwy.
7. Mae’r gyfradd cyfraniadau Tai Fforddiadwy fesul metr sgwâr yn cael ei gario drosodd o Ganllawiau Cynllunio Atodol 1.
8. Mae ardaloedd Is-farchnad Tai Fforddiadwy nawr yn cael eu dangos ar y Map Cynigion.
9. Llai o bwyslais ar ail-drafod dichonoldeb gan ei fod yn Gynllun newydd – paragraff 4.2.21 o Bolisi Cynllunio Cymru 10: ‘Lle mae polisïau cynllun datblygu cyfoes wedi nodi’r buddion cymunedol a ddisgwylir o geisiadau cynllunio datblygu sy’n cydymffurfio â hwy dylid tybio eu bod yn ddichonadwy ac ni ddylai fod yn angenrheidiol i faterion dichonoldeb gael eu hystyried ymhellach.’
10. Tai Cymdeithasol – diweddariad ar ‘Pwy all feddiannu?’ i adlewyrchu dull cyfredol y Cyngor Sir o asesu angen.
11. Atodiad 3 – Asesiad Hyfywedd Economaidd – wedi’i ddiweddaru i adlewyrchu’r arferion presennol.

 

CYSYLLTU Â NI

Cysylltwch â ni a chofrestrwch eich manylion i gael y diweddariadau diweddaraf ar yr hyn sy'n digwydd ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro

CYSYLLTU Â NI on CYSYLLTU Â NI