Adroddiad Ymgynghoriad – Canllawiau Cynllunio Atodol

Posted On : 17/11/2023

Adroddiad Ymgynghoriad - Cynllun Datblygu Lleol 2 Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro/Cynllun Datblygu Lleol 1 Cyngor Sir Penfro

Isod, rhestrir y dogfennau canllawiau yr ymgynghorwyd yn eu cylch. Roedd un ohonynt yn ddogfen ganllawiau a luniwyd ar y cyd â Chyngor Sir Penfro.

Gymeriad y Morlun Cyd
Coed a Choetiroedd Parc Cenedlaethol yn unig
Colli Gwestai a Thai Gwestai Parc Cenedlaethol yn unig

Mae’r ddogfen ganllawiau ar y Cyd yn ymdrin â Sir Benfro i gyd. Mae’r gweddill yn ymdrin â Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn unig.

Dechreuodd ymgynghoriad cyhoeddus ar y canllawiau Colli Gwestai a Thai Llety ym mis Ionawr 2022 a daeth i ben ar 15 Ebrill 2022. Dechreuodd ymgynghoriad cyhoeddus ar yr Asesiad o Gymeriad Morluniau a’r canllawiau Coed a Choetiroedd ym mis Ionawr 2023 a daeth i ben ar 26 Mai 2023. Cyhoeddwyd hysbysiad ffurfiol yn y Western Telegraph a’r Pembrokeshire Herald yn hysbysebu’r ymgynghoriad, ac anfonwyd datganiad i’r wasg at bapurau lleol a gwasanaethau radio.  Roedd copïau ar gael ar ein gwefannau. Roedd y cyfnod ymgynghori ar gyfer y Canllawiau Colli Gwestai a Thai Llety yn rhedeg am bedwar mis tan 4.30pm ar 15 Ebrill 2022. Cafodd nodyn i’ch atgoffa am y dyddiad cau ar gyfer sylwadau ar y ddogfen hon ei roi mewn datganiad i’r wasg ganol mis Mawrth 2022. Roedd y cyfnod ymgynghori ar gyfer gweddill y dogfennau yn rhedeg am bum mis tan 4:30pm ar 26 Mai 2023. Cafodd nodyn i’ch atgoffa am y dyddiad cau ar gyfer sylwadau ar y dogfennau hyn ei roi mewn datganiad i’r wasg ganol mis Ebrill 2023.

Roedd yr ymgyngoreion yng nghronfa ddata’r Cynllun Datblygu Lleol wedi cael neges e-bost neu lythyr am yr ymgynghoriad.

Cydnabuwyd yr holl ymatebion. Mae’r ymatebion hyn ar gael yn gyhoeddus – gweler y dolenni isod.

Adroddwyd ar ymatebion y swyddog i’r ymgynghoriad ar y Canllawiau Cynllunio Atodol i Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn ei gyfarfod ar 20 Medi 2023 ac i Gyfarfod Cabinet y Cyngor Sir ar 2 Hydref 2023.

Gellir gweld adroddiad o ymatebion swyddogion i ymgynghoriad y canllawiau cynllunio atodol trwy glicio ar y ddolen ganlynol:

Cyfarfod Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a gynhaliwyd ar 20 Medi 2023

https://www.pembrokeshirecoast.wales/wp-content/uploads/2023/09/Report-30-23.pdf (Agor mewn ffenest newydd)

Cyfarfod Cabinet Cyngor Sir Penfro a gynhaliwyd ar 2 Hydref 2023.

https://mgwelsh.pembrokeshire.gov.uk/ieListDocuments.aspx?CId=281&MId=5780&Ver=4&LLL=0 (Agor mewn ffenest newydd)

Cytunodd cyfarfod Awdurdod y Parc Cenedlaethol a Chabinet y Cyngor Sir y dylid diwygio’r canllawiau yn unol ag argymhellion y swyddogion, a nodir yn yr adroddiad.

Roedd cyfarfod Cabinet Cyngor Sir Penfro wedi cytuno y dylid gwneud gwelliannau i’r canllawiau yn unol ag argymhellion y swyddogion a nodir yn yr adroddiad yn amodol ar fân newid i ddogfen Ardal Cymeriad Morwedd SCA 13 Penbwchdy i Benllechwen i gyfeirio at Borthgain fel ‘pot mêl’ yn hytrach na ‘phot mêl bach’.

Mae’r Canllawiau a fabwysiadwyd wedi’u lanlwytho ar wefan Awdurdod y Parc Cenedlaethol:

Canllawiau Cynllunio Atodol – Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro(CDL2)

Ac ar wefan y Cyngor Sir:

Canllawiau Cynllunio Atodol y Cynllun Datblygu Lleol – Cyngor Sir Penfro (Agor mewn ffenest newydd)