Cynllun Croesawu Ymwelwyr

Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn bwriadu recriwtio gwirfoddolwyr sy’n awyddus i rannu eu cariad o Sir Benfro ac i roi croeso cynnes i ymwelwyr (o bellter diogel) yn ystod tymor yr haf 2022.

Yn seiliedig ar eu gwybodaeth a’u profiad lleol, bydd y gwirfoddolwyr Croesawu Ymwelwyr yn helpu pobl i wneud y gorau o’u hamser yn ymweld â’r Parc. Byddant hefyd yn annog ymwelwyr i amddiffyn ein tirwedd ysblennydd trwy droedio’n ysgafn a gadael olion traed yn unig.

Bydd y gwirfoddolwyr Croesawu Ymwelwyr wedi’u lleoli mewn lleoliadau poblogaidd ar draws y Parc Cenedlaethol ac yn atyniadau i ymwelwyr Awdurdod y Parc yng Nghastell Caeriw, Castell Henllys ac Oriel y Parc.

Rydym yn chwilio am bobl leol sy’n angerddol am Sir Benfro a gall gynnig croeso cynnes a chyfeillgar i ymwelwyr Bydd hyfforddiant ac unrhyw offer perthnasol yn cael eu darparu felly mae’n gyfle gwych i ddatblygu sgiliau newydd ac i ddysgu mwy am y Parc Cenedlaethol.

I gael gwybod mwy am y rôl a sut i gymryd rhan, gweler y disgrifiad o dasgau isod, ebostiwch ein Cydlynydd Gweithgareddau a Digwyddiadau Kate Lindley, neu ffoniwch 01646 624859.

Disgrifiad o Dasgau: Gwirfoddolwyr Croesawu Ymwelwyr

Pwrpas

Bydd y gwirfoddolwyr Croesawu Ymwelwyr wedi’u lleoli mewn lleoliad(au) awyr agored penodol o fewn y Parc Cenedlaethol, gan ymgysylltu ag ymwelwyr, rhoi gwybodaeth am weithgareddau/teithiau cerdded/profiadau i ymwelwyr o fewn cyffiniau’r lleoliad hwnnw. Bydd y rôl yn gweithio ochr yn ochr â thimau Darganfod a Pharcmyn y Parc Cenedlaethol

 

Dyletswyddau/gweithgareddau:

  • Bod yn bresennol mewn lleoliad a drefnwyd ymlaen llaw ar amseroedd / dyddiadau y cytunwyd arnyn nhw.
  • Rhoi croeso i ymwelwyr sy’n cyrraedd lleoliadau penodol.
  • Defnyddio eich gwybodaeth a’r sgiliau y byddwch wedi’u dysgu o’ch hyfforddiant i awgrymu cyfleoedd i ymwelwyr fwynhau ac i archwilio’r ardal. * (darperir hyfforddiant ac adnoddau ychwanegol i gefnogi’r ddyletswydd hon).
  • Cyfeirio ymholiadau at eraill os na allwch ddelio â’r ymholiad eich hun.
  • Cydlynu â’r timau Darganfod a Pharcmyn.
  • Bod yn bositif a chefnogol i anghenion yr holl ymwelwyr, trigolion lleol a chydweithwyr.
  • Bod yn hwyliog, yn gyfeillgar ac yn barod i helpu.
  • Cyfrif nifer yr ymwelwyr rydych mewn cysylltiad â nhw bob dydd a chofnodi/adrodd eich arsylwadau.

 

Amserlen

Bydd presenoldeb mewn lleoliadau penodol dros gyfnod yr haf. Mae’r rôl yn caniatáu i chi gyfrannu cymaint neu gyn lleied o amser ag y dymunwch yn amodol ar fod yn rhan o rota y cytunwyd arno.

 

Lleoliadau

Lleoliadau amrywiol gan gynnwys Amroth, Saundersfoot, Dinbych-y-pysgod, Freshwater East, Aberllydan/Nolton Haven/Niwgwl, Tyddewi, Porth Mawr, Abereiddi/Porthgain, Traeth Poppit.

Canolfannau ymwelwyr y Parc Cenedlaethol yn ôl yr angen – Castell Caeriw, Castell Henllys ac Oriel y Parc.

 

Goruchwyliaeth

Bydd gwirfoddolwyr Croesawu Ymwelwyr yn cael eu rheoli gan Gydlynydd Gweithgareddau a Digwyddiadau Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Cyn dechrau byddwch yn cael

  • Mynychu sesiwn hyfforddi ParkWise
  • Sesiwn friffio asesu risg
  • Sesiwn friffio i ymgyfarwyddo â’r safle lle byddwch wedi’ch lleoli

 

Rhinweddau

Dylai gwirfoddolwyr Croesawu Ymwelwyr allu cynnig presenoldeb cyfeillgar ac addysgiadol, gallu siarad ag ymwelwyr am y Parc Cenedlaethol, a lle bo’n bosib, eu cyfeirio i lefydd, mannau o ddiddordeb a chyfleoedd i archwilio ymhellach.

 

Buddion:

  • Bydd cyfleoedd hyfforddi ar gael
  • Gwisg Gwirfoddolwr y Parc Cenedlaethol
  • Darperir PPE lle bo angen
  • Bydd treuliau yn cael eu had-dalu
  • Gallwn ddarparu geirda, tystysgrifau presenoldeb etc. lle bo’n briodol.

I gael gwybod mwy am y rôl a sut i gymryd rhan, ebostiwch ein Cydlynydd Gweithgareddau a Digwyddiadau Kate Lindley, neu ffoniwch 01646 624859.

Mwy am Wirfoddoli