Pwyllgor Rheoli Datblygu 25/10/2023

Dyddiad y cyfarfod : 25/10/2023

10am, Ystafell Werdd, Swyddfa’r Parc Cenedlaethol, Parc Llanion, Doc Penfro, ac o Bell

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

2. Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda.

3. Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Medi 2023

4. Ystyried cyfarwyddyd y Cyfreithiwr  ar Ddyletswyddau’r Aelodau wrth Benderfynu ar Geisiadau Cynllunio.

5. Ystyried adroddiadau’r Rheolwr Rheoli Datblygu ar y ceisiadau cynllunio canlynol:

a) NP/23/0280/FUL – Newidiadau i’r gwesty bach a’r bwyty i’r preswylwyr (Dosbarth C1) a distyllfa jin a bar/ bwyty bach (defnydd cymysg C1/A3) ynghyd ag addasiadau – St Davids Distillery, Restaurant & Rooms, 11-13 Nun Street, Tyddewi, Sir Benfro, SA62 6NS

Argymhelliad y Swyddog: GWRTHOD

b) NP/23/0281/LBA – Newidiadau i’r gwesty bach presennol a bwyty i’r preswylwyr (Dosbarth C1) a distyllfa bwrpasol i wneud jin a bar/ bwyty bach (Defnydd Cymysg C1/A3) ynghyd a newidiadau- St Davids Distillery, Restaurant & Rooms, 11-13 Nun Street, Tyddewi, Sir Benfro, SA62 6NS

Argymhelliad y Swyddog: GWRTHOD

c)NP/22/0319/FUL – Cais cynllunio ol-weithredol ar gyfer is-rannu un annedd yn ddau dy annedd – 7, Holbrook Close, Aber Llydan, Hwlffordd, Sir Benfro, SA62 3JE

Argymhelliad y Swyddog: CANIATÂD

d) NP/22/0120/FUL – Canolfan gynadledda gyfoes newydd. Glanfa newydd. Golygfan, gwaith trwsio’r graig a thy generadur – Thorne Island Hotel, Angle, Penfro, Sir Benfro, SA71 5BE

Argymhelliad y Swyddog: CANIATÂD

e) NP/22/0121/LBA – Canolfan gynadledda gyfoes newydd. Glanfa newydd. Golygfan, gwaith trwsio’r graig a thy generadur – Thorne Island Hotel, Angle, Penfro, Sir Benfro, SA71 5BE

Argymhelliad y Swyddog: CANIATÂD

f) NP/23/0245/FUL – Gosod bolard y gellir ei symud ymaith ar ben uchaf y llithrfa i Draeth Sandy Haven – The Slipway, Sandy Haven Beach, Herbrandston, Aberdaugleddau, Sir Benfro, SA73 3ST

Argymhelliad y Swyddog: CANIATÂD

6. Ystyried adroddiadau’r Rheolwr Rheoli Datblygu ar  Apeliadau.

7. Ystyried adroddiad Rheolwr Rheoli Datblygu ar y ceisiad cynllunio canlynol:

a) NP/22/0032/FUL – Dymchwel garej a chodi adeilad deulawr yn ei le – Pengarn, 18, Ffordd Panteg, Solva, Hwlffordd, Sir Benfro, SA62 6TN

Argymhelliad y Swyddog: CANIATÂD

NODIADAU:

a) Yn unol â Ddeddf Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) 1985 bydd ymatebion i ymgynghoriaethau a wneir yng nghyd-destun y ceisiadau cynllunio sy’n gynwysedig yn yr adroddiad dilynol, na fyddant wedi dod i law erbyn y dyddiad ar gyfer paratoi’r adroddiad, yn cael eu cyflwyno ar lafar yn y cyfarfod.

b) Mae’r Papurau Cefndir a ystyrir wrth dafoli’r ceisiadau cynllunio ar yr agenda hwn yn cynnwys pob un neu rai o’r eitemau canlynol. (Cynhwysir eitemau 1 – 4 yn y ffeil ar gyfer pob cais unigol):

  1. Cais : yn cynnwys y ffurflen gais, tystysgrif o dan Adran 66 o’r Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, cynlluniau a gwybodaeth gefnogol arall a gyflwynir gyda’r cais.
  1. Gohebiaeth bellach gyda’r ymgeisydd, yn cynnwys unrhyw ddiwygiadau i’r cais: yn cynnwys unrhyw lythyron at yr ymgeisydd/asiant yn ymwneud â’r cais ac unrhyw ohebiaeth bellach a gyflwynir gan yr ymgeisydd/asiant ynghyd â manylion neu gynlluniau wedi’u diwygio.
  1. Llythyrau wrth Gyrff Statudol: yn cynnwys unrhyw lythyron perthnasol at ac wrth Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned, Adrannau’r Cyngor Sir, Cyfoeth Naturiol Cyru, Dŵr Cymru a chyrff cyhoeddus eraill a chymdeithasau.
  1. Llythyrau wrth Unigolion Preifat: yn cynnwys unrhyw lythyron perthnasol at ac wrth y cyhoedd yn ymwneud â’r cais oni bai bod yna gais wedi’i wneud gan yr awduron i beidio ag adrodd eu safbwyntiau’n gyhoeddus.
  1. Cynlluniau Statudol a Dogfennau Polisi:

(a) Cymru’r Dyfodol – Cynllun Cenedlaethol 2040. Dyma Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Cymru ac fe’i mabwysiadwyd ar 24 Chwefror 2021

(b)  Cynllun Datblygu Lleol Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro 2 a fabwysiadwyd ar 30 Medi, 2020 a’r canllawiau cynllunio atodol cysylltiedig.

(c)  Cynllun Rheoli Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro 2020 – 2024 a fabwysiadwyd ar 11 Rhagfyr 2019.

(d) Canllawiau Polisi Cynllunio Cymru a Nodiadau Cyngor Technegol sydd gyda’i gilydd yn ffurfio Canllawiau Polisi Cynllunio Llywodraeth Cymru. 

  1. Unrhyw Ddogfennau Eraill: yn cynnwys unrhyw ddogfennau perthnasol eraill megis rhybuddion penderfyniadau yn y gorffennol a rhybuddion safle.

Dylai unrhyw berson sydd am weld y Papurau Cefndir hyn gysylltu â Sue Davies, yr Awdurdod Parc Cenedlaethol, Parc Llanion, Doc Penfro (Ffôn:  01646 624800 Est.4840) e-bost: dc@pembrokeshirecoast.org.uk