Pwyllgor Archwilio ac Adolygu Gwasanaethau Corfforaethol 9/11/22

Dyddiad y Cyfarfod : 09/11/2022

10am, Rhith-Gyfarfod

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda

3. Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Gorffennaf 2022.

4. Derbyn adroddiad y cyfarfod o’r Grŵp Iechyd a Diogelwch a gynhaliwyd ar 30 Mehefin 2022

5. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

18/22 Adroddiad Archwiliad Mewnol 2022/23
Mae’r adroddiad yn cyflwyno ffrwyth y gwaith a wnaed ar Floc 1 cynllun archwilio gweithredol 2022/23.

19/22 Adroddiad Perfformiad am y cyfnod oedd yn diweddu ar 30 Medi 2022
Mae’r adroddiad hwn yn ystyried perfformiad yn erbyn yr amcanion a nodir yn y Cynllun Corfforaethol am y cyfnod a ddaeth i ben ar 30 Medi 2022.

20/22 Diweddariad Iechyd a Diogelwch
Mae’r adroddiad hwn yn rhoi diweddariad cryno ar ddigwyddiadau Iechyd a Diogelwch Hydref 2021 – Medi 2022 a materion eraill IaD all fod o ddiddordeb i’r Pwyllgor.

21/22 Cofrestr Risg
Gofynnir i’r Aelodau ystyried y Gofrestr Risg ddiweddaraf.

22/22 Adroddiad ar Berfformiad y Gyllideb am y 6 mis hyd at fis Medi 2022
Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno gwybodaeth am y gyllideb am y cyfnod hyd at fis Medi 2022

6.  Dirprwyo unrhyw faterion i’w hystyried gan y Grŵp Gwelliant Parhaus.

7. Derbyn adroddiad y cyfarfod o’r Grŵp Iechyd a Diogelwch a gynhaliwyd ar 20 Hydref 2022

8. Penderfynu eithrio’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem canlynol oherwydd ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i ddiffinir ym Mharagraffau 14 a 18 o Ran 4 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972

9. Ystyried yr adroddiad canlynol:

23/22 Seibergadernid
Gofynnir i’r Aelodau ystyried dau adroddiad gan Archwilio Cymru.