Pwyllgor Archwilio ac Adolygu Gwasanaethau Corfforaethol 12/05/21

Dyddiad y Cyfarfod : 12/05/2021

10am, Rhith-Gyfarfod

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda

3. Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Chwefror 2021.

4. Derbyn cyflwyniad gan y Swyddog Diogelu Data a benodwyd yn ddiweddar sy’n amlinellu ei blaenoriaethau cychwynnol.

5. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

07/21 Cynllun Archwilio Swyddfa Archwilio Cymru 2021
Derbyn y Cynllun Archwilio ar gyfer 2021 oddi wrth Swyddfa Archwilio Cymru.

08/21 Adroddiad ar y camau a gymerwyd i reoli’r Clefyd Coed Ynn.
Mae’r adroddiad yn amlinellu’r camau a gymerwyd gan y Tîm Rheoli Cefn Gwlad i reoli’r coed sy’n dioddef o’r Clefyd Coed Ynn ar ystâd yr Awdurdod.

09/21 Adroddiad Perfformiad am y cyfnod oedd yn diweddu ar 31 Mawrth 2021
Mae’r adroddiad hwn yn ystyried perfformiad yn erbyn yr amcanion a nodir yn y Cynllun Corfforaethol am y cyfnod a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2021.

10/21 Diweddariad Iechyd a Diogelwch
Mae’r adroddiad hwn yn rhoi diweddariad cryno ar ddigwyddiadau Iechyd a Diogelwch Ionawr – Mawrth 2021 a materion eraill IaD all fod o ddiddordeb i’r Pwyllgor.

11/21 Cofrestr Risg
Gofynnir i’r Aelodau ystyried y Gofrestr Risg ddiweddaraf.

12/21 Adroddiad Archwiliad Mewnol 2020/21
Mae’r adroddiad yn cyflwyno ffrwyth y gwaith a wnaed ar Floc 2 cynllun archwilio gweithredol 2020/21 a gymeradwywyd eisoes gan Bwyllgor Adolygu Gwasanaethau Archwilio a Chorfforaethol yr Awdurdod.

6. Derbyn diweddariad llafar gan y Rheolwr Cyllid ar berfformiad y gyllideb am y 12 mis hyd at fis Mawrth 2021

7. Penderfynu eithrio’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem canlynol oherwydd ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i ddiffinir ym Mharagraffau 14 a 18 o Ran 4 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972

8. Ystyried yr adroddiad canlynol:

13/21 Seibergadernid
Gofynnir i’r Aelodau ystyried dau adroddiad sy’n ymwneud â Seibergadernid.  Y cyntaf yw adroddiad cyffredinol gan Archwilio Cymru ar “Seibergadernid yn y Sector Cyhoeddus” a’r ail yw adolygiad o’n trefniadau ar Seibergadernid gan ein Harchwilwyr Mewnol TIAA.

9.  Dirprwyo unrhyw faterion i’w hystyried gan y Grŵp Gwelliant Parhaus.

Cofnodion a Gynhaliwyd