Pwyllgor Adolygu Gweithredol 16/12/20

Dyddiad y Cyfarfod : 16/12/2020

10am, Rhith-Gyfarfod

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda

3. Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Medi 2020

4. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

14/20 Rheoli Llwybr yr Arfordir a’r Rhwydwaith o Hawliau Tramwy Cyhoeddus, ar ôl y Cyfnod Clo 2020.

Mae’r adroddiad yn rhoi diweddariad i’r Aelodau ar waith yr Awdurdod Parc Cenedlaethol yn rheoli Llwybr yr Arfordir a’r rhwydwaith o Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn ystod y cyfnod clo ac ar ôl llacio’r cyfyngiadau clo COVID-19 fis Mehefin 2020.

15/20 Effaith COVID-19 ar y Gwasanaethau i Ymwelwyr

Mae’r adroddiad yn rhoi diweddariad i’r Aelodau ar yr heriau gweithredu a achoswyd gan COVID-19 ar draws atyniadau’r Parc i ymwelwyr (h.y. Oriel y Parc, Castell Caeriw a Chastell Henllys) yn ystod tymor prysuraf 2020.

16/20 Cyflwyno Canlyniadau Gwerthuso’r Diwrnod Archaeoleg 2020

Mae’r adroddiad yn cyflwyno canlyniadau’r gwerthuso yn dilyn  y Diwrnod Archaeoleg eleni 2020.

17/20 Adroddiad am Berfformiad am y Cyfnod a ddaeth i ben ar 31 Hydref 2020.

Mae’r adroddiad yn cyflwyno’r perfformiad hyd at 31 Hydref 2020 ar gyfer data misol ac ystadegau chwarter 1- 2 (Ebrill – Medi) ar gyfer rhai setiau data.

18/20 Y Gofrestr Risg

Gofyn i’r Aelodau ystyried y gofrestr risg ddiweddaraf.

5.     Dirprwyo unrhyw faterion i’w hystyried gan y Grŵp Gwelliant Parhaus.

Lawrlwythwch y cofnodion