Pwyllgor Adolygu Gweithredol

Dyddiad y Cyfarfod : 17/06/2020

Rhith-cyfarfod, 10am

1.  Ethol Cadeirydd am y flwyddyn sy’n dod

Enwebiad derbyniedig:         Cynghorydd K Doolin

2. Ethol Dirprwy Gadeirydd am y flwyddyn sy’n dod

Enwebiad derbyniedig:         Neb

3. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

4. Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda

5. Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Rhagfyr 2019

6. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

05/20 Gweithio gyda’r Ysgolion – Ymateb i heriau’r Cwricwlwm newydd i Gymru

Mae’r adroddiad yn rhoi adolygiad i’r Aelodau ar waith yr Awdurdod ar addysg ac yn arbennig yn rhoi diweddariad ar y modd y mae ein gwasanaethau yn y maes hwn yn ymateb i heriau’r Cwricwlwm newydd i Gymru.

 06/20 Lleihau Llygredd Golau

Mae’r adroddiad yn cyflwyno gwybodaeth i’r Aelodau ar Bartneriaeth Llygredd Golau Sir Benfro ac ar bapur y bartneriaeth ‘Awyr Serennog Sir Benfro’.

07/20 Adroddiad Perfformiad am y Cyfnod yn diweddu ar yr 31 Mawrth 2020

Mae’r adroddiad yn cyflwyno’r perfformiad am y flwyddyn ariannol gyfan – o fis Ebrill i fis Mawrth 2019/20, ac mae’n cynnwys data Chwarter 4 (Ionawr – Mawrth) ar gyfer y mwyafrif o’r setiau data.

 08/20 Cofrestr Risg

Gofynnir i’r Aelodau ystyried y Gofrestr Risg ddiweddaraf.

7.     Derbyn cyflwyniad ar y gweithgareddau marchnata allweddol sy’n gysylltiedig â’r Fenter Llwybrau Celtaidd

8.     Dirprwyo unrhyw faterion i’w hystyried gan y Grŵp Gwelliant Parhaus.