Pwyllgor Adolygu Gweithredol 17/03/21

Dyddiad y Cyfarfod : 17/03/2021

10am, Rhith-Gyfarfod

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda

3. Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Rhagfyr 2020

4. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

01/21 Y Gofrestr Risg

Gofyn i’r Aelodau ystyried y gofrestr risg ddiweddaraf.

02/21 Adroddiad am Berfformiad am y Cyfnod a ddaeth i ben ar 31 Ionawr 2021.

Mae’r adroddiad yn cyflwyno’r perfformiad hyd at 31 Ionawr 2021 ar gyfer data misol ac ystadegau chwarter 1- 3 (Ebrill – Rhagfyr) ar gyfer rhai setiau data.

03/21 Adroddiad ar y camau a gymerwyd i reoli’r Clefyd Coed Ynn. .

Mae’r adroddiad yn amlinellu’r camau a gymerwyd gan y Tîm Rheoli Cefn Gwlad i reoli’r coed sy’n dioddef o’r Clefyd Coed Ynn ar ystâd yr Awdurdod.

5.     Dirprwyo unrhyw faterion i’w hystyried gan y Grŵp Gwelliant Parhaus.

 

Cofnodion a Gynhaliwyd