Awdurdod y Parc Cenedlaethol 15/06/22

Dyddiad y Cyfarfod : 22/06/2022

10.30am neu yn union ar ôl i Gyfarfod Blynyddol Cyffredinol yr Awdurdod y Parc Cenedlaethol ddod i ben, Ystafell Werdd, Swyddfa’r Parc Cenedlaethol, Parc Llanion, Doc Penfro, ac o Bell

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Mawrth 2022

4. Ystyried materion sy’n codi o’r cofnodion sydd heb fod yn destun adroddiad pellach neu sydd heb eu cynnwys ar yr Agenda

5. Cyhoeddiadau’r Cadeirydd

6. Derbyn adroddiad cyfarfodydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar 9 Mawrth 2022.

7. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Adolygu Gweithredol a gynhaliwyd ar 16 Mawrth 2022

8. Ystyried adroddiad cyfarfod y Panel Adolygu Perfformiad y Prif Weithredwr a gynhaliwyd ar 16 Mawrth 2022

9. Ystyried adroddiad cyfarfodydd y Pwyllgor Ieunctid a gynhaliwyd ar
a)    8 Mawrth 2022 a
b)  26 Ebrill 2022

10. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Cronfa Datblygu Cynaliadwy a gynhaliwyd ar 23 Mawrth 2022

11. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Archwilio ac Adolygu Gwasanaethau Corfforaethol a gynhaliwyd ar 11 Mai 2022

12. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

15/22 Llythyr Cylch Gwaith Tymor y Llywodraeth ar gyfer Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Mae’r adroddiad yn cyflwyno Llythyr Cylch Gwaith Tymor y Llywodraeth oddi wrth Llywodraeth Cymru i’r Aelodau.

16/22 Bwrdd Rheoli Maethynnau
Mae’r adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth yr APC i ddirprwyo penderfyniadau sy’n ymwneud â Bwrdd Rheoli Maethynnau Afon Cleddau i’r Prif Weithredwr a’r Cyfarwyddwr Cynllunio a Chyfarwyddyd y Parc.

17/22 Polisi Teledu Cylch Cyfyng 
Mae’r adroddiad hwn yn ceisio cymeradwyaeth i bolisi Teledu Cylch Cyfyng yr Awdurdod.

18/22 Cyllid ar gyfer cyfleusterau cyhoeddus
Mae’r adroddiad yn ceisio barn yr Aelodau ar lythyr a dderbyniwyd oddi wrth Cyngor Sir Penfro ynghylch cyllid ar gyfer cyfleusterau cyhoeddus.

19/22 Panel Recriwtio i’r swydd Cyfarwyddwr
Gofynnir i’r Aelodau gytuno i benodi panel ar gyfer penodi Cyfarwyddwr newydd.

20/22 Digwyddiadau Corfforaethol
Gofynnir i’r Aelodau benderfynu a chymeradwyo’r lefel o gynrychiolaeth yn y digwyddiadau corfforaethol a nodir yn yr adroddiad.

21/22 Safonau’r Gymraeg: Adroddiad Blynyddol
Gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo’r Adroddiad Blynyddol fel cyflwyniad yr Awdurdod i Gomisiynydd y Gymraeg.