Awdurdod Parc Cenedlaethol

Dyddiad y Cyfarfod : 30/09/2020

Rhith-Gyfarfod, 10am

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Gorffennaf 2020

4. Ystyried materion sy’n codi o’r cofnodion sydd heb fod yn destun adroddiad pellach neu sydd heb eu cynnwys ar yr Agenda

5. Cyhoeddiadau’r Cadeirydd

6. Derbyn adroddiadau cyfarfodydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar 15 Gorffennaf 2020

7. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Archwilio ac Adolygu Gwasanaethau Corfforaethol a gynhaliwyd ar 8 Gorffennaf 2020

8. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 22 Gorffennaf 2020

9. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Personél a gynhaliwyd ar 22 Gorffennaf 2020

10. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Cynorthwyo a Datblygu Aelodau a gynhaliwyd ar 29 Gorffennaf 2020

11. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

37/20 ISA260 Adroddiad i’r rhai sy’n gyfrifol am lywodraethiant

Gwneir cyflwyniad ar Adroddiad ISA260 Swyddfa Archwilio Cymru: Gohebiaeth Ynghylch Datganiadau Ariannol i’r rhai sy’n gyfrifol am Lywodraethiant.

38/20 Cynllun Datblygu Lleol 2 Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro – Mabwysiadu a Chanllawiau Cynllunio Atodol

Diben yr Adroddiad hwn yw mabwysiadu Cynllun Datblygu Lleol 2 Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn ffurfiol ac ystyried argymhellion ynghylch y Canllawiau Cynllunio Atodol.

39/20 Adroddiad Blynyddol ar Gyflawni Amcanion Llesiant (Cynllun Gwella Rhan 2) 2019/20 pt2

Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu’r cynnydd yn erbyn y rhaglen waith a gynigiwyd yng Nghynllun Corfforaethol ac Adnoddau’r Awdurdod am y flwyddyn 2019/20.

40/20 Datblygu, Cymeradwyo a Gweithredu Polisi Adnoddau Dynol

Gofynnir am gymeradwyaeth yr Aelodau ar y papur Datblygu, Cymeradwyo a Gweithredu Polisi Adnoddau Dynol sy’n anelu at symleiddio’r broses o adolygu polisi, gan gyflymu mân welliannau sy’n gofyn am oruchwyliaeth Aelodau’r Pwyllgor yn unig, gan sicrhau diwydrwydd dyladwy priodol ar gyfer y newidiadau hynny sy’n galw am yr her ddeallusol a ddarperir gan y Pwyllgor.

41/20 Cynllun Hyfforddi ar gyfer Datblygu Aelodau

Gofynnir i’r aelodau gytuno ar Gynllun Hyfforddi ar gyfer Datblygu Aelodau.

42/20 Penodi Aelod ar Fwrdd Ymweld â Sir Benfro

Gofynnir i’r Aelodau benodi Aelod ar Fwrdd Ymweld â Sir Benfro, y Sefydliad newydd sy’n Rheoli Cyrchfannau ar gyfer Sir Benfro.

Lawrlwythwch y cofnodion