Awdurdod y Parc Cenedlaethol 30/03/22

Dyddiad y Cyfarfod : 30/03/2022

10am, Rhith-Gyfarfod

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Chwefror 2022

4. Ystyried materion sy’n codi o’r cofnodion sydd heb fod yn destun adroddiad pellach neu sydd heb eu cynnwys ar yr Agenda

5. Cyhoeddiadau’r Cadeirydd

6. Derbyn adroddiad cyfarfodydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar 26 Ionawr 2022 a 7 Chwefror 2022.

7. Ystyried adroddiad cyfarfod y Panel Adolygu Perfformiad y Prif Weithredwr a gynhaliwyd ar 21 Hydref 2021

8. Ystyried adroddiad cyfarfodydd y Pwyllgor Ieunctid a gynhaliwyd ar

a)  11 Ionawr 2022 a
b)  8 Chwefror 2022

9. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Cynorthwyo a Datblygu Aelodau a gynhaliwyd ar 2 Chwefror 2022

10. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Archwilio ac Adolygu Gwasanaethau Corfforaethol a gynhaliwyd ar 2 Mawrth 2022

11. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 2 Mawrth 2022

12. Derbyn diweddariad ar y Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd P Kidney bod yr Awdurdod yn cynnal trafodaethau gyda Chyngor Cymuned Llandyfái ac unrhyw un arall sydd â budd, naill ai i roi darn o dir yn Freshwater East fel rhodd, neu ei werthu ar gyfer darparu ardal chwarae i blant a ystyriwyd gan y Pwyllgor Adolygu Gweithredol ar 16/03/22.

13. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

09/22 Cynllun Corfforaethol 2022/23
Gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo’r Cynllun Corfforaethol 2022/23.

10/22 Ymateb yr Awdurdod Parc Cenedlaethol i’r ymgynghoriad ar y prosiect Fferm Wynt Arnofiol Erebus yn y Môr Celtaidd
Diben yr adroddiad hwn yw cytuno ar egwyddorion ymateb yr Awdurdod Parc Cenedlaethol i’r ymgynghoriad ar y caniatadau fydd yn ofynnol ar gyfer y Prosiect Fferm Wynt Arnofiol Erebus.

11/22 Prynu tir fel rhan o gyllid Tirweddau Cynaliadwy Lleoedd Cynaliadwy ar gyfer Atafaelu Carbon yn y Parc Cenedlaethol
Mae’r adroddiad yn cyflwyno argymhelliad i’r Aelodau i ddirprwyo awdurdod i’r Prif Weithredwr brynu coetir/dolydd fel rhan o bortffolio prosiectau Tirweddau Cynaliadwy Lleoedd Cynaliadwy a ariennir gan Lywodraeth Cymru i wella bioamrywiaeth ac atafaelu carbon o fewn y Parc Cenedlaethol.

12/22 Caffael Astudiaethau Gwaelodlin Carbon Tirweddau Dynodedig
Mae’r adroddiad yn gofyn i’r Aelodau gymeradwyo gwariant contract diwygiedig ar gomisiynu Archwiliadau Carbon ar gyfer yr wyth o Dirweddau Dynodedig.

13/22 Cydnabyddiaeth Aelod 2022/23
Mae’r adroddiad yn hysbysu’r Aelodau o benderfyniadau Panel Annibynnol Cymru ar Daliadau Cydnabyddiaeth o ran y Cyflogau Sylfaenol ac Uwch sy’n daladwy  i Aelodau Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn y flwyddyn ariannol 2022/23.

14/22 Cyfarfodydd yr APC: Opsiynau Lleoliad yn ystod Ailddatblygu’r Ystafell Gyfarfod 
Mae’r adroddiad yn gofyn am farn yr Aelodau ar y lleoliad i gynnal cyfarfodydd yr Awdurdod Parc Cenedlaethol a’i Bwyllgorau tra bod yr ystafell gyfarfod bresennol yn cael ei hailddatblygu.

 

Cofnodion a Gynhaliwyd