Awdurdod y Parc Cenedlaethol 16/06/21

Dyddiad y Cyfarfod : 16/06/2021

10.15am, Rhith-Gyfarfod

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Mai 2021

4. Ystyried materion sy’n codi o’r cofnodion sydd heb fod yn destun adroddiad pellach neu sydd heb eu cynnwys ar yr Agenda

5. Cyhoeddiadau’r Cadeirydd

6. Derbyn adroddiad cyfarfodydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar 21 Ebrill 2021 a 10 Mai 2021

7. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Cronfa Datblygu Cynaliadwy a gynhaliwyd ar 28 Ebrill 2021

8. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Archwilio ac Adolygu Gwasanaethau Corfforaethol a gynhaliwyd ar 12 Mai 2021

9. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

22/21 Y Modd o Gynnal Cyfarfodydd Pwyllgor yn y Dyfodol
Mae’r adroddiad hwn yn gofyn i’r Aelodau nodi’r darpariaethau yn Adran 47 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 a’r canllawiau cysylltiedig ynglŷn â chyfrifoldebau statudol yr Awdurdod o ran darparu cyfarfodydd aml-leoliad. Gofynnir i’r Aelodau ystyried yr opsiynau cyfatebol sydd ar gael i’r Awdurdod, cytuno ar y platfform a ddymunir ar gyfer pob Pwyllgor yn 2021/22 a dod i gonsensws ynglŷn â’r platfform yn y dyfodol fydd yn ofynnol erbyn Mai 2022.

23/21 Ymestyn y Newidiadau Dros-dro yn sgîl Effaith Covid 19 ar Gynllun yr Awdurdod o Ddirprwyo
Er mwyn galluogi parhad y gwasanaeth cynllunio yn ystod y cyfnod Covid-19 hwn sy’n parhau, bwriedir ymestyn y diwygiadau dros dro a wnaed i’r cynllun dirprwyo ar y 6ed o Fai 2020 ac eto ar y 29ain o Orffennaf 2020 a’r 2ail o Ragfyr 2020, a hynny tan y 30ain o Fawrth 2022.

24/21 Adolygu’r Cynllun Cyfranogiad y Cyhoedd yng nghyfarfodydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu
Mae’r adroddiad yn argymell newidiadau i’r Cynllun Cyfranogiad y Cyhoedd yng nghyfarfodydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu.

25/21 Caffael Astudiaethau ar Linell Sylfaen Carbon Tirweddau Dynodedig
Gofynnir i’r Aelodau atal y Rheolau Sefydlog Contractio 2020 o ran comisiynu Archwiliadau Carbon ar gyfer yr wyth Tirwedd Dynodedig.

26/21 Safonau’r Gymraeg: Adroddiad Blynyddol
Gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo’r Adroddiad Blynyddol fel cyflwyniad yr Awdurdod i Gomisiynydd y Gymraeg.

10.   Ystyried adroddiad ynglŷn â Mabwysiadu Achos Busnes dros gael Gweithle Digidol (Adroddiad 27/21)
Mae’r adroddiad yn ceisio cytundeb yr Aelodau i symud i Microsoft 365 i gynorthwyo’r trosglwyddo i Weithle Digidol.

Cofnodion a Gynhaliwyd