Awdurdod y Parc Cenedlaethol 15/09/21

Dyddiad y Cyfarfod : 15/09/2021

10am, Rhith-Gyfarfod

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Gorffennaf 2021

4. Ystyried materion sy’n codi o’r cofnodion sydd heb fod yn destun adroddiad pellach neu sydd heb eu cynnwys ar yr Agenda

5. Cyhoeddiadau’r Cadeirydd

6. Derbyn adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar 21 Gorffennaf 2021

7. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Archwilio ac Adolygu Gwasanaethau Corfforaethol a gynhaliwyd ar 14 Gorffennaf 2021

8. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Cynorthwyo a Datblygu Aelodau a gynhaliwyd ar 14 Gorffennaf 2021

9. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Ieuenctid a gynhaliwyd ar 20 Gorffennaf 2021

10. Ystyried Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd P Kidney bod Pwyllgor (Rheoli) Datblygu y Parc Cenedlaethol yn caniatáu i siaradwyr ddefnyddio ystafelloedd Aelodau’r Pwyllgor gyda chaniatâd ymlaen llaw.

11. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

37/21 Cynllun Datblygu Lleol Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro 2 – Canllawiau Cynllunio Atodol
Diben yr Adroddiad hwn yw cymeradwyo nifer o ddogfennau canllawiau cynllunio atodol ar gyfer ymgynghori.

38/21 Polisi Diogelu Data
Mae’r adroddiad hwn yn ceisio cymeradwyaeth i Bolisi’r Awdurdod ar Ddiogelu Data.

39/21 Rheoleiddio’r Rhandiroedd Cymunedol sydd eisoes ar Dir sy’n Berchen i’r Awdurdod ar Gaeau Grapley End, Trefin
Ceisir cymeradwyaeth yr Aelodau i ganiatáu prydles alwedigaethol newydd i Brif Swyddog Gwelliant Trefin allu parhau i ddefnyddio’r rhandiroedd cymunedol ar ran o dir sy’n berchen i’r Awdurdod yng nghaeau Grapley End, Trefin.

40/21 Ailddatblygu’r Ystafell Werdd – Cyllideb a’r Camau Nesaf
Mae’r adroddiad yn rhoi trosolwg i’r Aelodau o’r camau nesaf posibl sydd angen eu cymryd i ailddatblygu’r Ystafell Werdd, a chytuno ar gyllideb ddangosol o gronfeydd wrth gefn yr Awdurdod.

41/21 Croeso Sir Benfro
Mae’r adroddiad yn ceisio cytundeb i ddiwygio’r cyfraniad y cytunodd yr Awdurdod arno i gefnogi gwaith Croeso Sir Benfro.

Cofnodion a Gynhaliwyd