Awdurdod y Parc Cenedlaethol 10/05/23

Dyddiad y Cyfarfod : 10/05/2023

10am, Ystafell Werdd, Swyddfa’r Parc Cenedlaethol, Parc Llanion, Doc Penfro, ac o Bell

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Mawrth 2023

4. Nodi’r Log Gweithredu o’r cyfarfod blaenorol

5. Cyhoeddiadau’r Cadeirydd

6. Derbyn adroddiadau cyfarfodydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar 8 Mawrth 2023

7. Ystyried adroddiad cyfarfodydd y Pwyllgor Cronfa Datblygu Cynaliadwy a gynhaliwyd ar 25 Ionawr 2023

8. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Cynorthwyo a Datblygu Aelodau a gynhaliwyd ar 15 Chwefror 2023

9. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Archwilio ac Adolygu Gwasanaethau Corfforaethol a gynhaliwyd ar 1 Mawrth 2023

10. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

16/23 Polisi Cynllunio Cymru ar y budd net i fioamrywiaeth a chydnerthedd ecosystemau a Datblygiadau Mawr yn y Parciau Cenedlaethol
Gofynnir i’r Aelodau gyflwyno unrhyw sylwadau ychwanegol ar yr ymateb i’r ymgynghoriad hwn gan Lywodraeth Cymru, a’i gymeradwyo

17/23 Safonau’r Gymraeg: Adroddiad Blynyddol
Gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo’r Adroddiad Blynyddol fel cyflwyniad yr Awdurdod i Gomisiynydd y Gymraeg

18/23 Adnewyddu Prydles Creigiau Stac a Sant Govan
Gofynnir i’r Aelodau gytuno i fwrw ymlaen ag adnewyddu’r brydles fel y nodir yn yr adroddiad