Pwyllgor Rheoli Datblygu 21/07/21

Dyddiad y Cyfarfod : 21/07/2021

10am, Rhith-Gyfarfod

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

2. Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda.

3. Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar:

a) 9 Mehefin 2021;

b) 16 Mehefin 2021 a

c) 21 Mehefin 2021

 4. Ystyried cyfarwyddyd y Cyfreithiwr ar Ddyletswyddau’r Aelodau wrth Benderfynu ar Geisiadau Cynllunio.

5. Ystyried adroddiadau’r Arweinydd Tîm Rheoli Datblygu ar y ceisiadau cynllunio canlynol:

a) NP/20/0397/FUL – Dymchwel y garej to gwastad wrth ochr y ty ac adeiladu estyniad unllawr yn nhalcen a chefn y ty. Ychwanegu 3 ffenestr dormer i’r ffrynt a 4 ffenestr yn y to goleddf yn y cefn, addasu’r gofod yn y to yn llety ychwanegol – 2, Vanderhoof Way, Saundersfoot, Sir Benfro, SA69 9LH

Argymhelliad y Swyddog: CANIATAD

b) NP/21/0015/FUL– Newid 6 o garafanau teithiol i 6 o garafanau sefydlog, gwaith allanol cysylltiedig gan gynnwys gwelliannau ecolegol a thirweddu – Wynd Hill, Maenorbyr, Sir Benfro, SA70 7SL

Argymhelliad y Swyddog: CANIATAD

c) NP/21/0102/FUL – Dymchwel y ty preswyl a’r garej presennol. Adeiladu ty preswyl a garej newydd – Ringstone, Haroldstone Hill, Aber Llydan, Hwlffordd, Sir Benfro SA62 3JP

Argymhelliad y Swyddog: GWRTHOD

d) NP/21/0110/FUL – Codi ty newydd yn lle’r hen dy – Pen-castell, Trewyddel, Sir Benfro, SA43 3BU

Argymhelliad y Swyddog: GWRTHOD

e) NP/21/0149/FUL – Newid defnydd tir i greu cyfleuster gwersylla tymhorol (6 pabell a lleoli strwythur cyfleuster llesiant) – Speedlands Farm, Dale, Hwlffordd, Sir Benfro, SA62 3QX

Argymhelliad y Swyddog: GWRTHOD

f) NP/20/0155/FUL – Dymchwel adeiladau ac ail-ddatblygu i ddarparu 14 o anheddau, gwaith tirweddu, mynedfa a gwaith cysylltiedig – Rochgate Motel, Roch, Hwlffordd, Sir Benfro, SA62 6AF

Argymhelliad y Swyddog: DIRPRWYO CANIATAD

g) NP/21/0174/FUL – Dymchwel y ffermdy presennol ac adeiladu ffermdy yn ei le – Porthclais, Tyddewi, Sir Benfro, SA62 6RR

Argymhelliad y Swyddog: GWRTHOD

h) NP/21/0215/FUL – Addasu ac estyniad i’r sgubor bresennol i greu annedd tair ystafell wely. Gwaredu’r garafan breswyl sefydlog bresennol. Adleoli’r sied wair bresennol ac yn ei lle adeiladu stabl – Bower Farm, Aber Llydan, Hwlffordd, Sir Benfro, SA62 3TY.

Argymhelliad y Swyddog: GWRTHOD

6.     To consider the report of the Head of Development Management on matters relating to enforcement.

a) EC/16/0044 – Medical Hall, Tudor Square, Dinbych-y-Pysgod

b) EC19/0020 – Tir ger Rhiw’r Castell, Trefdraeth, Sir Benfro, SA42 0QE

7.    Ystyried adroddiadau’r Arweinydd Tîm Rheoli Datblygu ar Apeliadau.

 

NODIADAU:

A.   Yn unol â Ddeddf Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) 1985 bydd ymatebion i ymgynghoriaethau a wneir yng nghyd-destun y ceisiadau cynllunio sy’n gynwysedig yn yr adroddiad dilynol, na fyddant wedi dod i law erbyn y dyddiad ar gyfer paratoi’r adroddiad, yn cael eu cyflwyno ar lafar yn y cyfarfod.

B.   Mae’r Papurau Cefndir a ystyrir wrth dafoli’r ceisiadau cynllunio ar yr agenda hwn yn cynnwys pob un neu rai o’r eitemau canlynol.  (Cynhwysir eitemau 1 – 4 yn y ffeil ar gyfer pob cais unigol):

1.   Cais : yn cynnwys y ffurflen gais, tystysgrif o dan Adran 66 o’r Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, cynlluniau a gwybodaeth gefnogol arall a gyflwynir gyda’r cais.

2.   Gohebiaeth bellach gyda’r ymgeisydd, yn cynnwys unrhyw ddiwygiadau i’r cais : yn cynnwys unrhyw lythyron at yr ymgeisydd/asiant yn ymwneud â’r cais ac unrhyw ohebiaeth bellach a gyflwynir gan yr ymgeisydd/asiant ynghyd â manylion neu gynlluniau wedi’u diwygio.

3.   Llythyrau wrth Gyrff Statudol: yn cynnwys unrhyw lythyron perthnasol at ac wrth Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned, Adrannau’r Cyngor Sir, Cyfoeth Naturiol Cyru, Dŵr Cymru a chyrff cyhoeddus eraill a chymdeithasau.

4.   Llythyrau wrth Unigolion Preifat: yn cynnwys unrhyw lythyron perthnasol at ac wrth y cyhoedd yn ymwneud â’r cais oni bai bod yna gais wedi’i wneud gan yr awduron i beidio ag adrodd eu safbwyntiau’n gyhoeddus.

5.   Cynlluniau Statudol a Dogfennau Polisi Anffurfiol :

a    Cynllun Datblygu Lleol Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro 2 a fabwysiadwyd ar 30 Medi, 2020 a’r canllawiau cynllunio atodol cysylltiedig.

b.   Cynllun Rheoli Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro 2020 – 2024 a fabwysiadwyd ar 11 Rhagfyr 2019.

6.    Unrhyw Ddogfennau Eraill: yn cynnwys unrhyw ddogfennau perthnasol eraill megis rhybuddion penderfyniadau yn y gorffennol a rhybuddion safle.

Dylai unrhyw berson sydd am weld y Papurau Cefndir hyn gysylltu â Sue Davies, yr Awdurdod Parc Cenedlaethol, Parc Llanion, Doc Penfro (Ffôn:  01646 624800 Est.4840) e-bost: dc@pembrokeshirecoast.org.uk.

Cofnodion a Gynhaliwyd