Pwyllgor Rheoli Datblygu 08/12/21

Dyddiad y Cyfarfod : 08/12/2021

10am, Rhith-Gyfarfod

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

2. Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda.

3. Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Hydref 2021

4. Ystyried cyfarwyddyd y Cyfreithiwr ar Ddyletswyddau’r Aelodau wrth Benderfynu ar Geisiadau Cynllunio.

5. Ystyried adroddiadau’r Arweinydd Tîm Rheoli Datblygu ar y ceisiadau cynllunio canlynol:

a) NP/21/0043/FUL – Ymestyn y cwrtil domestig a chreu lle parcio oddi ar y ffordd i 2 gerbyd yn yr ardal newydd ei helaethu (rhannol ôl-weithredol) – Queens Quarry, Queens Parade, Dinbych-y-pysgod, Sir Benfro, SA70 7EJ
Argymhelliad y Swyddog: CANIATÂD

b) NP/21/0120/FUL – Dymchwel rhan o’r tŷ a newidiadau i’r tŷ a’r garej a tho newydd ac estyniadau to gwastad gwyrdd – Tal Y Wern, Parrog Road, Trefdraeth, Sir Benfro, SA42 0RP
Argymhelliad y Swyddog: CANIATÂD

c) NP/21/0211/FUL – Caniatâd cynllunio ôl-weithredol yn unol a’r hyn a adeiladwyd gan gynnwys wal gynnal, lle parcio a throi, a newid defnydd o garej i anecs – Seren Y Môr, 17 Haytor Gardens, Dinbych y Pysgod, Sir Benfro, SA70 8HW
Argymhelliad y Swyddog: CANIATÂD

d) NP/21/0508/FUL – Adeiladu annedd – Dandre, Feidr Ganol, Trefdraeth, Sir Benfro, SA42 0RR
Argymhelliad y Swyddog: DIRPRWYO CANIATÂD

e) NP/21/0577/FUL – Datblygiad preswyl o 11 tŷ deulawr (gan gynnwys 2 dŷ fforddiadwy) – Tir ger Cefn Gallod, Trefin, Hwlffordd, Sir Benfro, SA62 5AP
Argymhelliad y Swyddog: AROLWG SAFLE

f) NP/21/0579/FUL – Caniatad ôl-weithredol ar gyfer: disodli’r ffenestri a drws uPVC darfodedig a drws a ffenestri codi newydd uPVC sy’n edrych fel pren; gwaredu’r rheiliau haearn sydd wedi rhydu ac yn anniogel, ac yn eu lle gosod balwstrad gwydr; gwaredu iet bren sydd wedi pydru â iet fetel. Gosod paneli haul (datblygiad a ganiateir) – Lantern Cottage, Aber Bach, Hwlffordd, Sir Benfro, SA62 3UE
Argymhelliad y Swyddog: GWRTHOD

g) NP/21/0651/FUL – Cais llawn am ddymchwel a disodli’r tŷ, ymestyn y cwrtil preswyl, a gwaith cysylltiedig – Penyrallt, Mynachlogddu, Clynderwen, Sir Benfro, SA66 7RU
Argymhelliad y Swyddog: GWRTHOD

6.    Ystyried adroddiad y Pennaeth Rheoli Datblygu ar y materion canlynol sy’n ymwneud â gorfodaeth.

EC20/0128 & EC21/0126 – Tir ger Poundland, White Lion Street, Dinbych y Pysgod, Sir Benfro, SA70 7ES

7.    Ystyried adroddiadau’r Arweinydd Tîm Rheoli Datblygu ar  Apeliadau.

  NODIADAU:

A.   Yn unol â Ddeddf Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) 1985 bydd ymatebion i ymgynghoriaethau a wneir yng nghyd-destun y ceisiadau cynllunio sy’n gynwysedig yn yr adroddiad dilynol, na fyddant wedi dod i law erbyn y dyddiad ar gyfer paratoi’r adroddiad, yn cael eu cyflwyno ar lafar yn y cyfarfod.

B.   Mae’r Papurau Cefndir a ystyrir wrth dafoli’r ceisiadau cynllunio ar yr agenda hwn yn cynnwys pob un neu rai o’r eitemau canlynol.  (Cynhwysir eitemau 1 – 4 yn y ffeil ar gyfer pob cais unigol):

1.   Cais : yn cynnwys y ffurflen gais, tystysgrif o dan Adran 66 o’r Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, cynlluniau a gwybodaeth gefnogol arall a gyflwynir gyda’r cais.

2.   Gohebiaeth bellach gyda’r ymgeisydd, yn cynnwys unrhyw ddiwygiadau i’r cais : yn cynnwys unrhyw lythyron at yr ymgeisydd/asiant yn ymwneud â’r cais ac unrhyw ohebiaeth bellach a gyflwynir gan yr ymgeisydd/asiant ynghyd â manylion neu gynlluniau wedi’u diwygio.

3.   Llythyrau wrth Gyrff Statudol: yn cynnwys unrhyw lythyron perthnasol at ac wrth Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned, Adrannau’r Cyngor Sir, Cyfoeth Naturiol Cyru, Dŵr Cymru a chyrff cyhoeddus eraill a chymdeithasau.

4.   Llythyrau wrth Unigolion Preifat: yn cynnwys unrhyw lythyron perthnasol at ac wrth y cyhoedd yn ymwneud â’r cais oni bai bod yna gais wedi’i wneud gan yr awduron i beidio ag adrodd eu safbwyntiau’n gyhoeddus.

5.   Cynlluniau Statudol a Dogfennau Polisi Anffurfiol :

a    Cynllun Datblygu Lleol Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro 2 a fabwysiadwyd ar 30 Medi, 2020 a’r canllawiau cynllunio atodol cysylltiedig.

b.   Cynllun Rheoli Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro 2020 – 2024 a fabwysiadwyd ar 11 Rhagfyr 2019.

6.    Unrhyw Ddogfennau Eraill: yn cynnwys unrhyw ddogfennau perthnasol eraill megis rhybuddion penderfyniadau yn y gorffennol a rhybuddion safle.

Dylai unrhyw berson sydd am weld y Papurau Cefndir hyn gysylltu â Sue Davies, yr Awdurdod Parc Cenedlaethol, Parc Llanion, Doc Penfro (Ffôn:  01646 624800 Est.4840) e-bost: dc@pembrokeshirecoast.org.uk

Cofnodion a Gynhaliwyd