Pwyllgor Rheoli Datblygu 07/06/23

Dyddiad y Cyfarfod : 07/06/2023

10am, Ystafell Werdd, Swyddfa’r Parc Cenedlaethol, Parc Llanion, Doc Penfro, ac o Bell

1.    Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

2.    Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda.

3.    Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Ebrill 2023

4.    Ystyried cyfarwyddyd y Cyfreithiwr ar Ddyletswyddau’r Aelodau wrth Benderfynu ar Geisiadau Cynllunio.

5.    Ystyried adroddiadau’r Rheolwr Rheoli Datblygu ar y ceisiadau cynllunio canlynol: –

a) NP/23/0134/S73 – Newid Amod rhif 1 o NP/18/0396/OUT i ymestyn terfyn amser ar gyfer cyflwyno materion a gadwyd yn ôl tan 8 Awst 2024  – Tir ger Trewarren Road, Lanismel, Hwlffordd, Sir Benfro, SA62 3SZ

Argymhelliad y Swyddog: GWRTHOD

b) NP/23/0124/FUL – Newid defnydd toiledau cyhoeddus segur i barlwr cludfwyd hufen ia/bar coffi a gwerthu nwyddau traeth ac estyniad bach yn y cefn i greu cegin ynghyd a thoiled newydd i’r cyhoedd anabl fel sy’n ofynnol gan Gyngor Sir Penfro – Bloc Toiledau Diangen, Gerllaw Maes Gwersylla Niwgwl, Niwgwl, Hwlffordd, Sir Benfro, SA62 6AS

Argymhelliad y Swyddog: GWRTHOD

c) NP/23/0080/ADV – Codi bwrdd gwybodaeth ar stand bren – Tir ger 9 Heol Crwys, Trefin, Hwlffordd, Sir Benfro, SA62 5AF

Argymhelliad y Swyddog: CANIATÂD

d) NP/23/0077/FUL – Disodli’r balwstrad gwydr presennol a balwstrad gwydr o amrywiol uchder. Gosod dwy barasol parhaol – Harbwr Bar and Kitchen, Wogan Terrace, Saundersfoot, Sir Benfro, SA69 9HA

Argymhelliad y Swyddog: GWRTHOD

6.    Ystyried adroddiadau’r Rheolwr Rheoli Datblygu ar faterionsy’n ymwneud a gorfodi – EC21/0170 – Tir a Overhaven House, Blockett Lane, Little Haven

7.    Ystyried adroddiadau’r Rheolwr Rheoli Datblygu ar Apeliadau.

NODIADAU:

A.   Yn unol â Ddeddf Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) 1985 bydd ymatebion i ymgynghoriaethau a wneir yng nghyd-destun y ceisiadau cynllunio sy’n gynwysedig yn yr adroddiad dilynol, na fyddant wedi dod i law erbyn y dyddiad ar gyfer paratoi’r adroddiad, yn cael eu cyflwyno ar lafar yn y cyfarfod.

B.   Mae’r Papurau Cefndir a ystyrir wrth dafoli’r ceisiadau cynllunio ar yr agenda hwn yn cynnwys pob un neu rai o’r eitemau canlynol.  (Cynhwysir eitemau 1 – 4 yn y ffeil ar gyfer pob cais unigol):

1.   Cais : yn cynnwys y ffurflen gais, tystysgrif o dan Adran 66 o’r Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, cynlluniau a gwybodaeth gefnogol arall a gyflwynir gyda’r cais.

2.   Gohebiaeth bellach gyda’r ymgeisydd, yn cynnwys unrhyw ddiwygiadau i’r cais: yn cynnwys unrhyw lythyron at yr ymgeisydd/asiant yn ymwneud â’r cais ac unrhyw ohebiaeth bellach a gyflwynir gan yr ymgeisydd/asiant ynghyd â manylion neu gynlluniau wedi’u diwygio.

3.   Llythyrau wrth Gyrff Statudol: yn cynnwys unrhyw lythyron perthnasol at ac wrth Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned, Adrannau’r Cyngor Sir, Cyfoeth Naturiol Cyru, Dŵr Cymru a chyrff cyhoeddus eraill a chymdeithasau.

4.   Llythyrau wrth Unigolion Preifat: yn cynnwys unrhyw lythyron perthnasol at ac wrth y cyhoedd yn ymwneud â’r cais oni bai bod yna gais wedi’i wneud gan yr awduron i beidio ag adrodd eu safbwyntiau’n gyhoeddus.

5.   Cynlluniau Statudol a Dogfennau Polisi:

(a) Cymru’r Dyfodol – Cynllun Cenedlaethol 2040. Dyma Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Cymru ac fe’i mabwysiadwyd ar 24 Chwefror 2021.

(b)  Cynllun Datblygu Lleol Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro 2 a fabwysiadwyd ar 30 Medi, 2020 a’r canllawiau cynllunio atodol cysylltiedig.

(c)  Cynllun Rheoli Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro 2020 – 2024 a fabwysiadwyd ar 11 Rhagfyr 2019.

(d) Canllawiau Polisi Cynllunio Cymru a Nodiadau Cyngor Technegol sydd gyda’i gilydd yn ffurfio Canllawiau Polisi Cynllunio Llywodraeth Cymru.

6.    Unrhyw Ddogfennau Eraill: yn cynnwys unrhyw ddogfennau perthnasol eraill megis rhybuddion penderfyniadau yn y gorffennol a rhybuddion safle.

Dylai unrhyw berson sydd am weld y Papurau Cefndir hyn gysylltu â Sue Davies, yr Awdurdod Parc Cenedlaethol, Parc Llanion, Doc Penfro (Ffôn:  01646 624800 Est.4840) e-bost: dc@pembrokeshirecoast.org.uk.