Pwyllgor Rheoli Datblygu

Dyddiad y Cyfarfod : 02/09/2020

10am Rhith-Gyfarfod

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

2. Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda.

3. Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Gorffennaf 2020.

4. Ystyried cyfarwyddyd y Cyfreithiwr ar Ddyletswyddau’r Aelodau wrth Benderfynu ar Geisiadau Cynllunio.

5. Ystyried adroddiadau’r Arweinydd Tîm Rheoli Datblygu ar y ceisiadau cynllunio canlynol:

a) NP/19/0512/FUL – Disodli’r carafanau preswyl a’r annedd cyswllt i’r rheolwr â’r unedau llety gwyliau cyfagos – Manor Farm, Lydstep, Dinbych y Pysgod, Sir Benfro, SA70 7SG

Argymhelliad y Swyddog: DIRPRWYO CANIATAD

b) NP/19/0522/FUL – Caniatad cynllunio amlinellol ar gyfer 14 o unedau tai fforddiadwy. Caniatad cynllunio llawn ar gyfer newid defnydd tir o 85 o bebyll a charafanau teithiol i 85 o garafanau sefydlog a gwaith tirweddu cysylltiedig, ffyrdd dosbarthu a gorsaf newydd i bwmpio – Buttyland Caravan & Camping Park, Maenorbyr, Dinbych y Pysgod, Sir Benfro, SA70 7SX

Argymhelliad y Swyddog: DIRPRWYO CANIATAD

c) NP/19/0616/FUL – Annedd newydd yn lle’r hen un a chwt potiau – Porth Y Rhaw, 22 , High Street, Solfach, Hwlffordd, Sir Benfro, SA62 6TF

Argymhelliad y Swyddog: CANIATAD

d) NP/19/0617/CAC – Annedd newydd yn lle’r hen un a chwt potiau – Porth Y Rhaw, 22 , High Street, Solfach, Hwlffordd, Sir Benfro, SA62 6TF

Argymhelliad y Swyddog: CANIATAD

e) NP/20/0279/FUL – Datblygu’r Oriel Apple Tree a Penydre/lle parcio Oriel Apple Tree. Drws newydd. Ffenestri/ffenestri to ychwanegol. Newid defnydd rhannol i ddefnydd preswyl. – Apple Tree Gallery, The Ridgeway, Saundersfoot, Sir Benfro, SA69 9JE

Argymhelliad y Swyddog: CANIATAD

6. Ystyried adroddiad yr Arweinydd Tîm Rheoli Datblygu ar y materion canlynol sy’n ymwneud â gorfodaeth

EC19/0020 – Tir ger Rhiw’r Castell, Trefdraeth, Sir Benfro, SA42 0QE

7. Ystyried adroddiad yr Arweinydd Tîm Rheoli Datblygu ar faterion cynllunio eraill

NP/20/0284/TPO – Gwaith i’r coed  – Beachbank, Freshwater East, Penfro, Sir Benfro,  SA71 5LE

 

NODIADAU:

A.   Yn unol â Ddeddf Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) 1985 bydd ymatebion i ymgynghoriaethau a wneir yng nghyd-destun y ceisiadau cynllunio sy’n gynwysedig yn yr adroddiad dilynol, na fyddant wedi dod i law erbyn y dyddiad ar gyfer paratoi’r adroddiad, yn cael eu cyflwyno ar lafar yn y cyfarfod.

B.   Mae’r Papurau Cefndir a ystyrir wrth dafoli’r ceisiadau cynllunio ar yr agenda hwn yn cynnwys pob un neu rai o’r canlynol.  Cynhwysir eitemau 1 – 4 yn y ffeil ar gyfer pob cais unigol.

1.   Cais : yn cynnwys y ffurflen gais, tystysgrif o dan Adran 66 o’r Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref, 1990, cynlluniau a gwybodaeth gefnogol arall a gyflwynir gyda’r cais.

2.   Gohebiaeth bellach gyda’r ymgeisydd, yn cynnwys unrhyw ddiwygiadau i’r cais : yn cynnwys unrhyw lythyron at yr ymgeisydd/asiant yn ymwneud â’r cais ac unrhyw ohebiaeth bellach a gyflwynir gan yr ymgeisydd/asiant ynghyd â manylion neu gynlluniau wedi’u diwygio.

3.   Llythyrau wrth Gyrff Statudol : yn cynnwys unrhyw lythyron perthnasol at ac wrth Gynghorau cymuned, Adrannau Cyngor Sir, Asiantaeth yr Amgylchedd, Dŵr Cymru a chyrff cyhoeddus eraill a chymdeithasau.

4.   Llythyrau wrth Unigolion Preifat : yn cynnwys unrhyw lythyron perthnasol at ac wrth y cyhoedd yn ymwneud â’r cais oni bai bod yna gais wedi’i wneud gan yr awduron i beidio ag adrodd eu safbwyntiau’n gyhoeddus.

5.   Cynlluniau Statudol a Dogfennau Polisi Anffurfiol :

a    Cynllun Datblygu Lleol Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a fabwysiadwyd Medi 29, 2010.

b.   Cynllun Rheoli Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro 2015 – 2019 fabwysiadwyd 17 Rhagfyr 2014..

6.    Unrhyw Ddogfennau Eraill: yn cynnwys unrhyw ddogfennau perthnasol megis rhybuddion penderfyniadau yn y gorffennol a rhybuddion safle.

Dylai unrhyw berson sy am weld y Papurau Cefndir hyn gysylltu â Sue Davies, Awdurdod y Parc Cenedlaethol, Parc Llanion, Doc Penfro (Ffôn:  01646 624800 Est.4840).