Pwyllgor Rheoli Datblygu 01/02/23

Dyddiad y Cyfarfod : 01/02/2023

10am, Ystafell Werdd, Swyddfa’r Parc Cenedlaethol, Parc Llanion, Doc Penfro, ac o Bell

1.    Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

2.    Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda.

3.   Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar:

a)    7 Rhagfyr 2022;

b)    18 Ionawr 2023

4.    Ystyried cyfarwyddyd y Cyfreithiwr ar Ddyletswyddau’r Aelodau wrth Benderfynu ar Geisiadau Cynllunio.

5.    Ystyried adroddiadau’r Arweinydd Tîm Rheoli Datblygu ar y ceisiadau cynllunio canlynol:-

a) NP/22/0424/FUL – Dymchwel yr annedd preswyl presennol ac adeiladu tŷ a garej newydd – Ringstone, Broad Haven, Hwlfordd, Sir Benfro, SA62 3JP

Argymhelliad y Swyddog: CANIATÂD

b) NP/22/0240/FUL – Dymchwel yr adeiladau fferm modern, a’u disodli gan annedd newydd gan gynnwys yn rhannol addasu’r ysguboriau hanesyddol presennol, tirweddu, arae o baneli solar, clwydfan nos ystlumod a gwaith cysylltiedig – Lower Ripperston Farm, St. Brides, Hwlffordd, Sir Benfro, SA62 3AH

c) NP/21/0085/FUL– Newid defnydd tir i leoli 9 carafan sefydlog a adleolwyd, seilwaith cysylltiedig, gwelliannau i’r fynedfa bresennol i’r safle a gwella’r ecoleg – Meadow House Holiday Park, Stepaside, Arberth, Sir Benfro, SA67 8NS

Argymhelliad y Swyddog: DIRPRWYO CANIATÂD

d) NP/22/0569/FUL – Newid defnydd (yn ol-weithredol) i ganiatau defnyddio adeilad o dan Dosbarth A3 ar gyfer manwerthu, gwerthu a seddi i’r cyhoedd i’w defnyddio at ddbenion Harbwr Brewery – Bath Store, Sergeants Lane, Dinbych y Pysgod, Sir Benfro, SA70 7BQ

Argymhelliad y Swyddog: CANIATÂD

e) NP/22/0563/FUL – Newid defnydd ol-weithredol yr adeilad deheuol a’r clos stablau. Newidiadau i’r toeon, gan gynnwys gosod ffenestri yn y to – Stables Building and stable yard, Sergeants Lane, Dinbych y Pysgod, Sir Benfro, SA70 7BQ

Argymhelliad y Swyddog: CANIATÂD

f) NP/22/0564/LBA – Newidiadau i’r toeon a’r platiau wal ac ailosod y gorffeniad llechog. Gosod ffenestri yn y to. Newidiadau ac adfer y gwydro a’r drysau – Stables Building and stable yard, Sergeants Lane, Dinbych y Pysgod, Sir Benfro, SA70 7BQ

Argymhelliad y Swyddog: CANIATÂD

g) NP/22/0513/FUL – Dymchwel yr adeilad toiledau/cawodau/ storfa/golchdy presennol, a gwaredu’r cyfleuster i garafanau teithiol ar gyfer derbynfa i safle arall y tu allan i’r parth llifogydd ac ehangu’r lle, adeiladu toiledau/cawodau/ storfa/golchdy newydd, derbynfa/swyddfa ac ystafell gyfarfod, creu 12 o lefydd i godi pebyll ar laswellt (ol-weithredol), codi polyn i ddal teledu cylch cyfyng, addasu’r hen adeilad toiledau yn gaffi/parlwr hufen-ia, ac estyniad bach i greu toiled cyhoeddus, a gwaith cysylltiedig – Newgale Camping Site, Niwgwl, Hwlffordd, Sir Benfro, SA62 6AS

Argymhelliad y Swyddog: GWRTHOD

h) NP/22/0151/FUL – Estyniad unllawr i gefn y ty a newidiadau i dalcen deheuol y ty – Castle View, 21, Warlows Meadow, Maenorbyr, Dinbych y Pysgod, Sir Benfro, SA70 7TG

Argymhelliad y Swyddog: CANIATÂD

i) NP/22/0217/FUL – Llety gwyliau arfaethedig / llety Air B&B – 6, Clement Terrace, Dinbych y Pysgod, Sir Benfro, SA70 7LA

Argymhelliad y Swyddog: CANIATÂD

6.      Ystyried adroddiadau’r Arweinydd Tîm Rheoli Datblygu ar Apeliadau.

NODIADAU:

A.   Yn unol â Ddeddf Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) 1985 bydd ymatebion i ymgynghoriaethau a wneir yng nghyd-destun y ceisiadau cynllunio sy’n gynwysedig yn yr adroddiad dilynol, na fyddant wedi dod i law erbyn y dyddiad ar gyfer paratoi’r adroddiad, yn cael eu cyflwyno ar lafar yn y cyfarfod.

B.   Mae’r Papurau Cefndir a ystyrir wrth dafoli’r ceisiadau cynllunio ar yr agenda hwn yn cynnwys pob un neu rai o’r eitemau canlynol.  (Cynhwysir eitemau 1 – 4 yn y ffeil ar gyfer pob cais unigol):

1.   Cais : yn cynnwys y ffurflen gais, tystysgrif o dan Adran 66 o’r Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, cynlluniau a gwybodaeth gefnogol arall a gyflwynir gyda’r cais.

2.   Gohebiaeth bellach gyda’r ymgeisydd, yn cynnwys unrhyw ddiwygiadau i’r cais: yn cynnwys unrhyw lythyron at yr ymgeisydd/asiant yn ymwneud â’r cais ac unrhyw ohebiaeth bellach a gyflwynir gan yr ymgeisydd/asiant ynghyd â manylion neu gynlluniau wedi’u diwygio.

3.   Llythyrau wrth Gyrff Statudol: yn cynnwys unrhyw lythyron perthnasol at ac wrth Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned, Adrannau’r Cyngor Sir, Cyfoeth Naturiol Cyru, Dŵr Cymru a chyrff cyhoeddus eraill a chymdeithasau.

4.   Llythyrau wrth Unigolion Preifat: yn cynnwys unrhyw lythyron perthnasol at ac wrth y cyhoedd yn ymwneud â’r cais oni bai bod yna gais wedi’i wneud gan yr awduron i beidio ag adrodd eu safbwyntiau’n gyhoeddus.

5.   Cynlluniau Statudol a Dogfennau Polisi:

(a) Cymru’r Dyfodol – Cynllun Cenedlaethol 2040. Dyma Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Cymru ac fe’i mabwysiadwyd ar 24 Chwefror 2021.

(b)  Cynllun Datblygu Lleol Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro 2 a fabwysiadwyd ar 30 Medi, 2020 a’r canllawiau cynllunio atodol cysylltiedig.

(c)  Cynllun Rheoli Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro 2020 – 2024 a fabwysiadwyd ar 11 Rhagfyr 2019.

(d) Canllawiau Polisi Cynllunio Cymru a Nodiadau Cyngor Technegol sydd gyda’i gilydd yn ffurfio Canllawiau Polisi Cynllunio Llywodraeth Cymru.

6.    Unrhyw Ddogfennau Eraill: yn cynnwys unrhyw ddogfennau perthnasol eraill megis rhybuddion penderfyniadau yn y gorffennol a rhybuddion safle.

Dylai unrhyw berson sydd am weld y Papurau Cefndir hyn gysylltu â Sue Davies, yr Awdurdod Parc Cenedlaethol, Parc Llanion, Doc Penfro (Ffôn:  01646 624800 Est.4840) e-bost: dc@pembrokeshirecoast.org.uk

Dilynwch y llif byw o'r cyfarfod