Awdurdod y Parc Cenedlaethol 24/03/21

Dyddiad y Cyfarfod : 24/03/2021

10am, Rhith-Gyfarfod

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 3 Chwefror 2021

4. Ystyried materion sy’n codi o’r cofnodion sydd heb fod yn destun adroddiad pellach neu sydd heb eu cynnwys ar yr Agenda

5. Cyhoeddiadau’r Cadeirydd

6. Derbyn adroddiad cyfarfodydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar 9 Rhagfyr 2020 a 27 Ionawr 2021

7. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Cronfa Datblygu Cynaliadwy a gynhaliwyd ar 20 Ionawr 2021

8. Nodir adroddiadau cyfarfod y Pwyllgor Ieuenctid a gynhaliwyd ar 2 Chwefror 2021

9. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Archwilio ac Adolygu Gwasanaethau Corfforaethol a gynhaliwyd ar 10 Chwefror 2021

10. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Cynorthwyo a Datblygu Aelodau a gynhaliwyd ar 10 Chwefror 2021

11. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 24 Chwefror 2021

12. Ystyried adroddiadau cyfarfod y Pwyllgor Personél a gynhaliwyd ar 3 Mawrth 2021

13. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

08/21 Llythyr Cylch Gwaith Llywodraeth Cymru

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig yn rhoi Llythyr Cylch Gwaith Blynyddol i Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Mae’r Llythyr Cylch Gwaith yn nodi cylch gwaith strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn 2021-22 a hefyd yn amlinellu’r setliad cyllido.

09/21 Cynllun Adnoddau a Chorfforaeth 2021/22

Gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo’r Cynllun Adnoddau a Chorfforaeth 2021/22.

10/21 Cynlluniau Gweithredu i ategu Cynllun Rheoli’r Parc Cenedlaethol 2020-2024

Gofynnir am gymeradwyaeth yr Aelodau i ddau gynllun gweithredu drafft i ategu Cynllun Rheoli’r Parc Cenedlaethol 2020-2024: Dathlu Treftadaeth ac Adfer Natur.

11/21 Penodi Swyddog Diogelu Data

Gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo penodi Sarah Burns yn Swyddog Diogelu Data Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro am gyfnod o dair blynedd o’r 1af o Ebrill 2021.

12/21 Opsiynau Fformat Cyfarfodydd Pwyllgor ôl Cyfyngiadau Covid-19

Mae’r adroddiad yn nodi opsiynau fformat Cyfarfodydd Pwyllgor unwaith y bydd cyfyngiadau Covid-19 wedi’u codi, ac yn ceisio barn yr Aelodau.

13/21 Calendar Cyfarfodydd 2021/2022

Gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo calendar o gyfarfodydd ar gyfer y flwyddyn nesaf.

14/21 Siarter Cymru ar gyfer Cefnogi a Datblygu Aelodau: Cais am Statws Lefel Siarter Uwch

Mae’r adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth yr Aelodau i gyflwyno cais am statws lefel Siarter Uwch o Siarter Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar gyfer cefnogi a datblygu Aelodau.

15/21 Cydnabyddiaeth Aelod 2021/22

Mae’r adroddiad yn hysbysu’r Aelodau o benderfyniadau Panel Annibynnol Cymru ar Daliadau Cydnabyddiaeth o ran y Cyflogau Sylfaenol ac Uwch sy’n daladwy  i Aelodau Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn y flwyddyn ariannol 2021/22.

16/21 Cymeradwyo Gwariant Cyfalaf Ychwanegol i Bwrcasu Pump Cerbyd Trydan

Mae’r adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth i wario £46,000 o Gronfa Wrth Gefn Derbyniadau Cyfalaf tuag at bwrcasu pump cerbyd trydan.

 

Lawrlwythwch y cofnodion