Awdurdod y Parc Cenedlaethol 20/03/2024

Dyddiad y Cyfarfod : 20/03/2024

10yb, Ystafell Werdd, Swyddfa’r Parc Cenedlaethol, Parc Llanion, Doc Penfro, ac o Bell

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 07 Chwefror 2024

4. Nodi’r Log Gweithredu o’r cyfarfod blaenorol

5. Cyhoeddiadau’r Cadeirydd

6. Derbyn adroddiad cyfarfodydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar 31 Ionawr 2024 & 19 Chwefror 2024

7. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Adnoddau Dynol a gynhaliwyd ar 17 Ionawr 2024

8. Ystyried adroddiad cyfarfodydd y Pwyllgor Ieuenctid a gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2024 a 06 Chwefror 2024

9. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Cronfa Datblygu Cynaliadwy a gynhaliwyd ar 24 Ionawr 2024

10. Penodi Aelod(au) i lenwi’r swyddi gwag ar y Pwyllgor Archwilio ac Adolygu’r Gwasanaethau Corfforaethol, Y Fforwm Gweithwyr a’r Pwyllgor Ymgynghorol Porthladd Aberdaugleddau.

11. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

04/24    Polisi Iechyd a Diogelwch

Diben yr adroddiad hwn yw ceisio cymeradwyaeth ffurfiol gan yr Awdurdod Parc Cenedlaethol i Bolisi Iechyd a Diogelwch yr Awdurdod.

05/24    Polisi Rheoli Risg

Cymeradwyo’r Polisi Rheoli Risg.

06/24    Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2023/24

Mae’r adroddiad yn rhoi cyfle i’r Aelodau lywio’r gwaith o baratoi’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol ar gyfer 2023-24.

07/24    Diweddariad Traeth Mawr

Mae’r adroddiad hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ganlyniad y newidiadau diweddar i fynediad i’r traeth, ac mae hefyd yn ceisio cymeradwyaeth yr Aelodau ar gyfer prosiect a glustnodwyd fyddai’n gwneud gwelliannau yn Nhraeth Mawr.

08/24    Prydles Toiledau Tyddewi

Mae’r adroddiad hwn yn rhoi gwybodaeth i’r Aelodau ar gais ffurfiol a dderbyniwyd oddi wrth Cyngor Sir Penfro ynghylch ildio’r brydles yn gynnar yn y Grove, Cyfleusterau Cyhoeddus, Tyddewi.

09/24    Cyllid Croeso Sir Benfro

Gofynnir i’r Aelodau gytuno i barhau â’r penderfyniad a wnaed fis Ionawr 2023 a rhoi cyfraniad arian parod i Croeso Sir Benfro ar gyfer blwyddyn ariannol 2024-25, yn hytrach na chyfraniad mewn da.

10/24    Calendar Cyfarfodydd 2024/2025 

Gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo calendr o gyfarfodydd ar gyfer y flwyddyn nesaf.

11/24    Digwyddiadau Corfforaethol

Gofynnir i’r Aelodau benderfynu a chymeradwyo’r lefel o gynrychiolaeth yn y digwyddiadau corfforaethol a nodir yn yr adroddiad.

12/24    Cydnabyddiaeth Aelod 2024/25

Mae’r adroddiad yn hysbysu’r Aelodau o benderfyniadau Panel Annibynnol Cymru ar Daliadau Cydnabyddiaeth o ran y Cyflogau Sylfaenol ac Uwch sy’n daladwy i Aelodau Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn y flwyddyn ariannol 2024/25.

12. Penderfynu eithrio’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem canlynol oherwydd ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i ddiffinir ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972

13. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

13/24    Ailddatblygu’r Ystafell Werdd

Rhoi diweddariad i’r Aelodau yn dilyn y broses gaffael a rhoi rhestr o opsiynau i’w hystyried fel y gellir gwneud penderfyniad, a bwrw ymlaen â’r opsiwn a ffefrir.