Awdurdod y Parc Cenedlaethol 14/12/22

Dyddiad y Cyfarfod : 14/12/2022

10am, Swyddfa’r Parc Cenedlaethol, Parc Llanion, Doc Penfro, ac o Bell

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Hydref 2022

4. Ystyried materion sy’n codi o’r cofnodion sydd heb fod yn destun adroddiad pellach neu sydd heb eu cynnwys ar yr Agenda

5.  Cyhoeddiadau’r Cadeirydd

6.  Derbyn adroddiadau cyfarfodydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar 19 Hydref 2022; a’r 16 Tachwedd 2022

7. Ystyried adroddiad cyfarfod y Panel Adolygu Perfformiad y Prif Weithredwr a gynhaliwyd ar 21 Medi 2022

8. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Ieuenctid a gynhaliwyd ar 27 Hydref 2022

9. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Archwilio ac Adolygu Gwasanaethau Corfforaethol a gynhaliwyd ar 9 Tachwedd 2022

10. Derbyn diweddariad ar y Rhybudd o Gynnig bod yr Awdurdod yn cynnal trafodaethau gyda Chyngor Cymuned Llandyfai, ac unrhyw un arall sydd â budd, naill ai i roi darn o dir yn Freshwater East fel rhodd, neu ei werthu ar gyfer darparu ardal chwarae i blant

11. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

41/22 Ymateb APCAP i adroddiad Archwilio Cymru – Parodrwydd y Sector Cyhoeddus ar gyfer Carbon Sero Net erbyn 2030 – galwadau i weithredu
Fis Gorffennaf 2022, cyhoeddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru adroddiad Parodrwydd y Sector Cyhoeddus ar gyfer Carbon Sero Net erbyn 2030 sy’n nodi pump o alwadau am gamau gweithredu i sefydliadau fynd i’r afael â’r rhwystrau cyffredin i ddatgarboneiddio yn y sector cyhoeddus. Mae’r adroddiad hwn yn nodi’r camau a gymerwyd gan yr Awdurdod hyd yn hyn yn erbyn y galwadau hyn am weithredu, a’r gweithgareddau yn y dyfodol fydd yn gymorth i’r Awdurdod gyflawni ymhellach.

42/22 Adolygu cynnig Tocyn Tymor Meysydd Parcio APCAP cyn Tymor 2023
Gofynnir i’r Aelodau adolygu prisiau tocynnau tymor y meysydd parcio cyn y tymor codi tâl i’r meysydd parcio yn 2023.

43/22 Diwygio Cynllun yr Awdurdod ar Ddirprwyo o ran Cynllunio
Mae’r adroddiad hwn yn cynnig diwygio Cynllun yr Awdurdod ar Ddirprwyo o ran materion Cynllunio.

44/22 Aelod Arweiniol ar Seiberddiogelwch
Gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo penodi Aelod Arweiniol ar gyfer Seiberddiogelwch.

12. Derbyn diweddariad prosiect ar gaffael contractwr yn dilyn y broses dendro ar gyfer y Prosiect Ailddatblygu’r Ystafell Werdd.

13. Derbyn diweddariad yn dilyn cyfarfod yn ddiweddar o Gyd-Bwyllgor Corfforaethol De Orllewin Cymru.

14. Derbyn cyflwyniad ar waith Croeso Sir Benfro dros y flwyddyn ddiwethaf gan ei Brif Weithredwr, Emma Thornton.