Awdurdod y Parc Cenedlaethol 01/05/2024

Dyddiad y Cyfarfod : 01/05/2024

10yb, Ystafell Werdd, Swyddfa’r Parc Cenedlaethol, Parc Llanion, Doc Penfro, ac o Bell

1.Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Mawrth 2024

4. Nodi’r Log Gweithredu o’r cyfarfod blaenorol

5. Cyhoeddiadau’r Cadeirydd

6. Derbyn adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar 13 Mawrth 2024

7. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Adolygu Gweithredol a gynhaliwyd ar 06 Mawrth 2024

8. Derbyn cyflwyniad gan y Rheolwr Ariannu Allanol am Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Bydd Elsa Davis, Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth, hefyd yn bresennol.

9. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

14/24    Ymgynghoriad 28 diwrnod ar Gyfarwyddyd Erthygl 4 ar Wersylla

Gofyn am gymeradwyaeth i ymgynghori ynghylch ai gwneud Cyfarwyddyd Erthygl 4 ffurfiol i eithrio rhai hawliau datblygu a ganiateir ar gyfer gwersylla a charafanio i gael fframwaith cynllunio fydd yn caniatáu i’r Awdurdod Parc Cenedlaethol hyrwyddo twristiaeth adfywiol mewn modd cynaliadwy.

15/24    Cynllun Rheoli Cyrchfan

Gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo’r Cynllun Rheoli Cyrchfan Sir Benfro (Strategaeth Twristiaeth) 2024 – 2028 a ddiweddarwyd.

16/24    Polisïau – Polisi Diogelu Gwybodaeth a Data & Polisi Defnyddwyr Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu

Ceisio cymeradwyaeth ffurfiol ar gyfer Polisi Diogelu Gwybodaeth a Data yr Awdurdod a’r Polisi Defnyddwyr Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu.

17/24    Cylch Gorchwyl

Gofynnir i’r Aelodau gytuno ar y diwygiadau i Gylch Gorchwyl yr Awdurdod a’i Bwyllgorau, gan gynnwys uno’r Pwyllgor Adnoddau Dynol a’r Pwyllgor Cefnogi a Datblygu Aelodau.

18/24    Datganiad Llywodraethu Blynyddol

Gwahoddir yr Aelodau i gyfrannu i gynnwys Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2024/25 ac i lywio’r datganiad.

19/24    Diweddariad ar y cyfleusterau toiledau

Mae’r adroddiad hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y camau ymlaen o ran cydweithio â Chyngor Sir Penfro ar y cyfleusterau toiledau.