Pwyllgor Archwilio ac Adolygu Gwasanaethau Corfforaethol 15/05/24

Dyddiad y Cyfarfod : 15/05/2024

10am, Rhith-Gyfarfod

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda

3. Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Chwefror 2024.

4. Nodi’r Log Gweithredu o’r cyfarfod blaenorol

5. Derbyn adroddiad y cyfarfod o’r Grŵp Iechyd a Diogelwch a gynhaliwyd ar 19 Mawrth 2024

6. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

11/24 Crynodeb Archwilio Blynyddol 2023
Mae crynodeb Archwilio Blynyddol Archwilydd Cyffredinol Cymru yn dangos y gwaith a wnaed ers y Crynodeb Archwilio Blynyddol diwethaf, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2023

12/24 Adroddiadau Archwilio Mewnol
Mae’r adroddiadau hyn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y camau ymlaen a gymerwyd tuag at gyflawni Cynllun Blynyddol Archwilio Mewnol 2023/24, a chrynodeb o’r gwaith a gyflawnwyd hyd yn hyn, ynghyd â’r adroddiadau a gwblhawyd ers y cyfarfod diwethaf.

13/24 Log Gweithredu ar Archwilio Perfformiad Allanol ac Archwilio Mewnol (hyd at 31 Mawrth 2024)
Mae’r adroddiad yn gymorth i fonitro’r camau gweithredu y cytunwyd arnynt o’r adolygiadau Archwilio.

14/24 Adroddiad Chwarterol Iechyd, Diogelwch a Lles
Mae’r adroddiad hwn yn rhoi diweddariad cryno ar ddigwyddiadau Iechyd a Diogelwch Ionawr – Ebrill 2024 a materion eraill IaD all fod o ddiddordeb i’r Pwyllgor.

15/24 Syndrom Dirgryniad Llaw Braich (HAVS) – Adroddiad Diweddaru
Mae’r adroddiad hwn yn rhoi diweddariad ar waith yr Awdurdod i wella’r mesurau ar reoli Dirgryniad Llaw Braich gyda ffocws penodol ar waith y Tîm Rheoli Cefn Gwlad.

16/24 Adroddiad Perfformiad ar yr Amcanion Llesiant
Mae’r adroddiad yn nodi’r cynnydd a wnaed yn erbyn y Dangosyddion Blaenoriaeth/ Prosiectau/ Rhaglenni Gwaith am y Cyfnod sy’n Diweddu ar yr 31ain o Fawrth 2024.

17/24 Adroddiad Monitro Sicrwydd – Cydymffurfiaeth, Dyletswyddau Cyhoeddus a Statudol a Gwelliant Corfforaethol
Mae’r adroddiad hwn yn un elfen o ddulliau’r Awdurdod o reoli risg ac sy’n gymorth i’r swyddogion ac i’r Aelodau allu monitro, asesu ac ymateb i feysydd gwaith cydymffurfio a gwella corfforaethol.

18/24 Prosiect Gwelliant Corfforaethol – Gwella rheoli a chyfathrebu ar y Polisïau a’r Safonau Corfforaethol
Mae’r swyddogion wedi clustnodi bod angen gwella dulliau’r Awdurdod o reoli a chyfathrebu ar y polisïau a’r safonau corfforaethol. Gofynnir i’r Aelodau dderbyn a nodi’r adroddiad diweddaru.

7. Penderfynu eithrio’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem canlynol oherwydd ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i ddiffinir ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972

8. Ystyried yr adroddiad canlynol:

19/24 Gweithredu’r Polisi Rheoli Risg
Diweddaru’r Aelodau ar weithredu’r Polisi Rheoli Risg newydd drwy gyflwyno Cofrestr Risg drafft a Datganiad Archwaeth Risg drafft.

9.  Dirprwyo unrhyw faterion i’w hystyried gan y Grŵp Gwelliant Parhaus.