Pwyllgor Archwilio ac Adolygu Gwasanaethau Corfforaethol 28/02/24

Dyddiad y Cyfarfod : 28/02/2024

10am, Rhith-Gyfarfod

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda

3. Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 08 Tachwedd 2023.

4. Nodi’r Log Gweithredu  o’r cyfarfod blaenorol

5. Derbyn adroddiad y cyfarfod o’r Grŵp Iechyd a Diogelwch a gynhaliwyd ar 28 Tachwedd 2023

6. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

01/24 Adroddiadau Archwilio Mewnol
Mae’r adroddiadau hyn yn rhoi diweddariad o’r cynnydd tuag at gyflawni Cynllun Blynyddol Archwilio Mewnol 2023/24, a chrynodeb o’r gwaith a wnaed hyd yn hyn, ynghyd ag adroddiad ar y System Rheoli Iechyd a Diogelwch.

02/24 Log Gweithredu ar Archwilio Perfformiad Allanol ac Archwilio Mewnol (hyd at 31 Rhagfyr 2023)
Mae’r adroddiad yn gymorth i fonitro’r camau gweithredu y cytunwyd arnynt o’r adolygiadau Archwilio.

03/24 Adroddiad Chwarterol Iechyd, Diogelwch a Lles
Darperir diweddariad llafar ar faterion Iechyd a Diogelwch ynghyd â chyflwyniad Dangosfwrdd.

04/24 Polisi Rheoli Risg
Gofynnir i’r Aelodau ystyried y Polisi Rheoli Risg drafft ac awgrymu diwygiadau cyn cyflwyno’r Polisi i’r Awdurdod i’w gymeradwyo.

05/24 Cofrestr Risg
Gofynnir i’r Aelodau ystyried y Gofrestr Risg ddiweddaraf.

06/24 Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2023/24
Mae’r adroddiad yn rhoi cyfle i’r Aelodau lywio’r gwaith o baratoi’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol ar gyfer 2023-24.

07/24 Adroddiad Perfformiad ar yr Amcanion Llesiant
Mae’r adroddiad yn nodi’r cynnydd a wnaed yn erbyn y Dangosyddion Blaenoriaeth/ Prosiectau/ Rhaglenni Gwaith am y Cyfnod sy’n Diweddu ar yr 31ain o Ragfyr 2023.

08/24 Adroddiad Monitro Sicrwydd – Cydymffurfiaeth, Dyletswyddau Cyhoeddus a Statudol a Gwelliant Corfforaethol
Mae’r adroddiad hwn yn un elfen o ddulliau’r Awdurdod o reoli risg ac sy’n gymorth i’r swyddogion ac i’r Aelodau allu monitro, asesu ac ymateb i feysydd gwaith cydymffurfio a gwella corfforaethol.

09/24 Adroddiad ar Berfformiad y Gyllideb am y 9 mis hyd at fis Rhagfyr 2023
Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno gwybodaeth am y gyllideb am y cyfnod hyd at fis Rhagfyr 2023.

7. Derbyn diweddariad llafar ar gamau’r Awdurdod i drosglwyddo i Microsoft 365.

8. Penderfynu eithrio’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem canlynol oherwydd ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i ddiffinir ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972

9. Ystyried yr adroddiad canlynol:

10/24 Cynllun Adfer ar ôl Trychineb Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu
Gofynnir i’r Aelodau ystyried y Cynllun diweddaraf ar Adfer ar ôl Trychineb TGCh, sydd wedi’i ysgrifennu yn unol ag argymhelliad archwilio mewnol.

10. Dirprwyo unrhyw faterion i’w hystyried gan y Grŵp Gwelliant Parhaus.