Pwyllgor Archwilio ac Adolygu Gwasanaethau Corfforaethol 11/05/22

Dyddiad y Cyfarfod : 11/05/2022

10am, Rhith-Gyfarfod

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda

3. Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Mawrth 2022.

4. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

08/22 Twristiaeth Gynaliadwy
Gofynnir i’r Aelodau dderbyn adroddiad Archwilio Cymru ar Dwristiaeth Gynaliadwy.

09/22 Cynllun Archwilio Swyddfa Archwilio Cymru 2022
Derbyn y Cynllun Archwilio ar gyfer 2022 oddi wrth Swyddfa Archwilio Cymru.

10/22 Ymholiadau archwilio i’r rhai sy’n gyfrifol am Lywodraethu a Rheoli
Mae’r adroddiad yn gofyn i’r Aelodau ystyried a rhoi sylwadau ar yr ymatebion i ymholiadau Archwilio Cymru i’r rhai sy’n gyfrifol am lywodraethu a rheoli.

11/22 Cofrestr Risg
Gofynnir i’r Aelodau ystyried y Gofrestr Risg ddiweddaraf.

12/22 Adroddiad Perfformiad am y cyfnod oedd yn diweddu ar 31 Mawrth 2022
Mae’r adroddiad hwn yn ystyried perfformiad yn erbyn yr amcanion a nodir yn y Cynllun Corfforaethol am y cyfnod a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2022.

13/22 Adroddiad Archwiliad Mewnol 2021/22
Mae’r adroddiad yn cyflwyno ffrwyth y gwaith a wnaed ar Floc 2 cynllun archwilio gweithredol 2021/22 a gymeradwywyd eisoes gan Bwyllgor Adolygu Gwasanaethau Archwilio a Chorfforaethol yr Awdurdod.

5. Derbyn diweddariad llafar gan y Rheolwr Cyllid ar berfformiad y gyllideb am y 12 mis hyd at fis Mawrth 2022

6. Dirprwyo unrhyw faterion i’w hystyried gan y Grŵp Gwelliant Parhaus.

Cofnodion a Gynhaliwyd