Pwyllgor Archwilio ac Adolygu Gwasanaethau Corfforaethol 10/11/21

Dyddiad y cyfarfod : 10/11/2021

10am, Rhith-Gyfarfod

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda

3. Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Gorffennaf 2021.

4. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

22/21 Adroddiad Archwiliad Mewnol 2021/22
Mae’r adroddiad yn cyflwyno ffrwyth y gwaith a wnaed ar Floc 1 cynllun archwilio gweithredol 2021/22 a gymeradwywyd eisoes gan Bwyllgor Adolygu Gwasanaethau Archwilio a Chorfforaethol yr Awdurdod.

23/21 Adroddiad ar Berfformiad y Gyllideb am y 6 mis hyd at fis Medi 2021
Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno gwybodaeth am y gyllideb am y cyfnod hyd at fis Medi 2021.

24/21 Cofrestr Risg
Gofynnir i’r Aelodau ystyried y Gofrestr Risg ddiweddaraf.

25/21 Adroddiad Perfformiad am y cyfnod oedd yn diweddu ar 30 Medi 2021
Mae’r adroddiad hwn yn ystyried perfformiad yn erbyn yr amcanion a nodir yn y Cynllun Corfforaethol am y cyfnod a ddaeth i ben ar 30 Medi 2021.

26/21 Diweddariad Iechyd a Diogelwch
Mae’r adroddiad hwn yn rhoi diweddariad cryno ar ddigwyddiadau Iechyd a Diogelwch Gorffennaf – Medi 2021 a materion eraill IaD all fod o ddiddordeb i’r Pwyllgor.

5.     Derbyn cyflwyniad ar y modd y mae’r Awdurdod wedi agor ei safleoedd yn ddiogel ac wedi cyflwyno mesurau i weithredu protocolau a gofynion COVID.

6.    Dirprwyo unrhyw faterion i’w hystyried gan y Grŵp Gwelliant Parhaus.

 

Cofnodion a Gynhaliwyd